swayne johnson logo

Amdanom Ni


EIN CWMNI

Mae Cyfreithwyr Swayne Johnson yn gwmni cyfreithiol blaenllaw a chyflawn gwobrwyedig* sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol a chyngor i unigolion a busnesau ledled Gogledd Cymru, Swydd Gaer a thu hwnt. 

Gellir olrhain hanes y cwmni yn ôl i’r 1850au ond, er mor falch ydym o’n hanes, rydym hefyd yn ymfalchïo yn ein gallu i arloesi a’r defnydd rydym yn ei wneud o dechnoleg gan mai dyma sy’n ein galluogi i ddarparu’r gwasanaeth gorau i’n cleientiaid heddiw (ac am flynyddoedd maith i ddod!).

Rydym yn gwmni mawr gyda chwech swyddfa stryd fawr ar hyd a lled Gogledd Cymru a Swydd Gaer ac mae hyn yn golygu ein bod yn y lle gorau i gefnogi cleientiaid personol a chorfforaethol fel eu gilydd.

 

Dod i adnabod ein Cyfarwyddwyr yma.

 

EIN POBL

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ddatblygu, recriwtio a chadw unigolion talentog. Mae’r pwyslais rydym yn ei roi ar waith tîm yn galluogi staff i rannu eu gwybodaeth, herio’i gilydd a gwneud y mwyaf o’u cryfderau. Rydym yn annog a chefnogi ein staff yn eu datblygiad personol ac yn eu hyfforddi i gyflawni eu huchelgais personol a phroffesiynol. Mae ein cyfreithwyr yn arbenigwyr yn eu maes ac mae’r timau sydd y tu cefn iddynt yn cyd-weithio a meddwl yn greadigol i ddarparu’r cyngor cyfreithiol gorau.

 

Dod i adnabod ein Tîm yma.

 

EIN CLEIENTIAID

Un o’n prif gryfderau yw’r ymrwymiad personol gan pob aelod o staff i ddarparu gofal rhagorol i gleientiaid. Pan yn ein cyfarwyddo, fe gaiff y cleient ei gyflwyno i’r cyfreithiwr fydd yn gweithredu fel prif gyswllt. Mae ein cyfreithwyr a’u timau’n gweithio’n galed i adeiladu perthynas hirdymor gyda’n gleientiaid ac, o ganlyniad, rydym yn gweld cleientiaid yn dychwelyd atom dro ar ôl tro ac yn ein hargymell i’w ffrindiau a’u teuluoedd. 

 

Edrychwch beth mae ein cleientiaid yn ei ddweud amdanon yma.

 

EIN CYMUNEDAU

Mae cefnogi a helpu i wella’r cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt yn hanfodol bwysig i ni.

Yn 2019, fe sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson gan gyfarwyddwyr Cyfreithwyr Swayne Johnson er mwyn cyfeirio cymorth ariannol at elusennau lleol, mentrau cymunedol a phrosiectau llawr gwlad.

Gellir darganfod mwy am Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson yma.

 

* Ein Gwobrau a’n Achrediadau:

Yn 2020 ni oedd enillwyr Gwobrau Cyfreithiol Busnesau Bach a Chanolig am y Cwmni Cyfraith Gwasanaeth Llawn Gorau.

Yn 2018 roedd Swayne Johnson yn ail yng Ngwobrau Busnesau Gwledig yng nghategori Gwasanaethau Proffesiynol Gorau Gwledig. Yn 2017 a 2018 cafodd ein Hadran Cleientiaid Preifat ei hargymell yn y Legal 500.  Roeddem hefyd yn enillwyr Busnes y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes f2n 2017.

 

 

    Logos Logos