swayne johnson logo

Atwrneiaeth


Atwrneiaethau

Atwrneiaeth Gyffredinol

Mae Atwrneiaeth Gyffredinol yn ddelfrydol mewn sefyllfaoedd lle mae angen i chi roi hawliau penodol i rywun arall neu rywrai eraill i ymdrin â’ch eiddo am gyfnod cyfyngedig o amser, er enghraifft pan fyddwch yn mynd i ffwrdd ar wyliau neu’n symud allan o’r wlad am ychydig flynyddoedd.

Ni allwch ddefnyddio Atwrneiaeth Gyffredinol mewn achosion lle’r ydych angen i rywun weithredu ar eich rhan am eich bod yn feddyliol analluog,

Nid oes angen cofrestru Atwrneiaeth Gyffredinol.

Atwrneiaeth Barhaus

Os oeddech wedi paratoi Atwrneiaeth Barhaus cyn mis Hydref 2007, ac rydych yn hapus ag o, mae’n parhau’n ddilys.

Bydd Atwrneiaeth Barhaus a lofnodwyd cyn mis Hydref 2007 yn penodi Twrneiod i weithredu ar eich rhan mewn perthynas â’ch eiddo a’ch materion ariannol. Mae’n galluogi i’ch Atwrneiod weithredu gyda’ch caniatâd neu os bydd sefyllfa’n codi lle’r ydych wedi colli galluedd meddyliol.

Unwaith yr oedd Atwrneiaeth Barhaus wedi’i pharatoi, nid oedd angen ei chofrestru. Ond, mae angen cofrestru Atwrneiaeth Barhaus os oes gan y Twrneiod reswm i gredu bod y Rhoddwr yn feddyliol analluog, neu’n dechrau mynd felly.

Atwrneiaeth Arhosol

Os nad oeddech wedi gwneud Atwrneiaeth Arhosol cyn mis Hydref 2007 neu, os oeddech wedi gwneud un ond nid ydych yn hapus ag e bellach, bydd angen i chi ystyried paratoi naill ai un math neu’r llall, neu’r ddau fath o Atwrneiaeth Arhosol.

Bydd Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer Materion Ariannol ac Eiddo yn caniatáu i chi benodi Twrneiod i wneud penderfyniadau am eich asedau a’ch buddiannau ariannol.

Mae Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer Iechyd a Lles yn caniatáu i chi awdurdodi Twrneiod i wneud penderfyniadau am eich anghenion cymdeithasol a gofal iechyd.

Rydym yn deall ei bod hi’n anodd ond yn bwysig iawn paratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf. Ac mae hynny’n cynnwys cynllunio ymlaen llaw i’ch diogelu eich hun a’ch anwyliaid rhag unrhyw sefyllfa lle’r ydych yn colli galluedd meddyliol. Mae ein tîm o gynghorwyr arbenigol wedi eu hyfforddi i’ch tywys dryw’r broses mewn ffordd broffesiynol a sensitif.

Mae llawer o’n cyfreithwyr arbenigol yn Gyfeillion Dementia.