swayne johnson logo

Eiddo Masnachol


Mae’n rhaid i’r mwyafrif o fusnesau gael safle i weithio ohono, a gall ein harbenigwyr ni eich tywys drwy drafodion sy’n ddigon cymhleth ar brydiau. P’un a ydych yn prynu neu’n gwerthu, yn rhoi neu’n trosglwyddo les fel landlord neu denant, neu’n ailforgeisio i helpu eich busnes i dyfu a datblygu, rydym ni wrth law i roi’r cyngor priodol i chi er mwyn gwneud y trafodiad mor esmwyth ag y bo modd.

Gallwn eich helpu i ymdrin â chwestiynau fel yma:

Ydw i angen Tystysgrif Perfformiad Ynni? Os felly, pwy sy’n gyfrifol am y gost?

Ydw i angen Asesiad Risgiau Tân, Adroddiad Asbestos neu Adroddiad Iechyd a Diogelwch?

A oes angen talu TAW ar y trafodiad? Beth am y goblygiadau o ran Treth Dir y Dreth Stamp?

Pwy ddylai yswirio’r eiddo?

Pa gymalau sy’n rhaid eu cael yn y les, ac a ydynt yn rhesymol?

 

Bydd amrywiaeth o gwestiynau eraill yn codi yn ystod eich trafodiad, p’un a ydych yn rhentu lle bach mewn swyddfa neu’n prynu uned ddiwydiannol gwerth miliynau o bunnoedd, a gall ein cyfreithwyr cymwysedig sicrhau bod y cwestiynau’n cael eu codi, a’u bod yn cael yr atebion cywir iddynt.

Byddwch yn derbyn rhif uniongyrchol a chyfeiriad ebost ar gyfer eich cyfreithiwr fel eich bod yn gallu siarad yn uniongyrchol â’r arbenigwr sy’n ymdrin â’ch achos. Byddent yn hapus iawn i weithio gyda chi i sicrhau’r canlyniad yr ydych ei eisiau.