Mae
cyfreithwyr blaenallaw Swayne Johnson, sydd a swyddfeydd
yn Ninbych a Llanelwy, wedi cyhoeddi eu bod yn cyfuno
gyda cyfeithwyr o Landudno, Chamberlain, Johnson &
Parke.
Bydd y cyfuniad yn cael ei gwblhau ar 9fed Mai
ac ar y dyddiad hwn bydd Swyane Johnson yn agor
eu drysau yn swyddfeydd Chamberlain, Johnsoon &
Parke yn Sgwar y Drindod yn y dref. Bydd y cyfuniad
yn rhoi sail i Swayne Johnson mewn tref sydd yn
tyfu mewn pwysigrwydd a bydd yn chwarae rhan bwysig
yng nghynlluniau’r cwmni i ehangu eu gwasanaethau
i glientiaid dros Gogledd Orllewin Cymru.
Bydd y cwmni’n cael ei adnabod fel Cyfreithwyr
Swayne Johnson yn ymgorffori Chamberlain, Johnson
& Parke. Mae’r ddau gwmni eisoes wedi
cychwyn ar y dasg o integreiddio eu systemau, adranau
a rhannu profiadau. Yn ddiweddar fe ddyfarnwyd gwobr
Lexel i Swayne Johnson gan Gymdeithas y Gyfraith
ac roedd hyn yn adlewyrchiad ar safon rheoli’r
cwmni.
Wrth son am y cyfuniad fe ddywedodd Edward Lloyd,
rheolwr-gyfarwyddwr Swayne Johnson: “Mae hwn
yn ddatblygiad cyffrous i Swayne Johnson ac i Chamberlain,
Johnson & Parke. Mae Gogledd Cymru yn profi
twf mewn datblygiad busnes a masnach ac roeddem
eisiau gwneud yn siwr fod Swayne Johnson yn rhan
o’r tyfiant hwnnw.
“Mae’n hymroddiad diwyro i Ddyffryn
Clwyd yn parhau trwy ein swyddfeydd yn Ninbych a
Llanelwy ond roeddem yn teimlo fod Llandudno yn
tyfu i fod yn ganolbwynt busnes a diwylliant Gogledd
Cymru ac roedd yn bwysig i ddatblygiad Swayne Johnson,
fel cwmni cyfreithiol blaenllaw yn yr ardal, ein
bod yn agor swyddfa yn y dref.
“Rydym yn bwriadu ehangu’r busnes yn
Llandudno a’r ardaloedd cyfagos trwy gyfrwng
y clientiaid sydd gan Chamberlain, Johnson &
Parke eisoes a thrwy ddatblygu perthynas gyda’r
busnesau, y clientiaid preifat a’r gymuned
leol. Mae gan Chamberlain, Johnson & Parke gryn
arbenigedd a safle yn Llandudno ac mae’r ddau
gwmni yn falch o gael gweithio gyda’u gilydd”
meddai Mr Lloyd.
Ychwanegodd uwch bartner Chamberlain Johnson &
Parke, J O Jones: “Rydym yn falch o allu cyhoeddi
ein cyfuniad â Swayne Johnson. Mae ein clientiaid
yn mynd i barhau i dderbyn yr un lefel o arbenigedd
a gwasanaeth personol ac a gynigwyd gan Chamberlain
Johnson & Parke. Fodd bynnag bydd ein cyfuniad
â Swayne Johnson yn ein galluogi i ehangu’r
gwasanaeth ac arbenigedd y gallwn ei gynnig i’n
clientiaid presenol a’n clientiaid newydd.
Gallaf sicrhau ein clientiaid presenol y byddwn
yn parhau i ddelio a’u busnes o’n swyddfa
yn Llandudno.”
Bydd y cyfuniad yn codi’r nifer o weithwyr
y mae Swayne Johnson yn eu cyflogi i dros 50. “Rydym
yn ymfalchio yn ein gallu i gynnig ystod eang o
wasanaethau cyfreithiol arbennigol y mae rhai pobl
yn meddwl na ellir eu cael y tu allan i gwmniau
dinesig mawr ac mae’r cyfuniad hwn â
Chamberlain Johnson & Parke yn mynd i ychwanegu
at ein gallu i gynnig y gwasanaeth yma” ychwanegodd
Mr Lloyd.