Mae ein tîm Masnachol yn
gallu cynnig cymorth gyda phob agwedd o redeg eich
busnes. Mae hyn yn cynnwys sefydlu telerau masnach
a chyfraith cyflogaeth, cymryd adeiladau masnachu,
cytundebau partneriaeth a hawliau olyniaeth.
Mae sawl math o fusnes yn bodoli, yn amrywio o
fod yn Unig Fasnachwr i ddeiliad Detholfraint, ac
o Gwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (c.c.c.) i Bartneriaeth.
Gyda phob math, daw set o rwymedigaethau wedi eu
gorfodi gan y gyfraith – a gall torri’r
rhwymedigaethau hyn fod yn drosedd! Os oes arnoch
angen sefydlu busnes, bydd ein cyngor ni ar y dechrau
yn gwneud y gwahaniaeth.
Bydd y cwmnïau sy’n cael eu rheoli’n
dda yn ymwybodol o’r angen i fod yn gyfarwydd
gyda thermau busnes cyfoes, yn ogystal â chyfraith
cyflogaeth, iechyd a diogelwch yn y gwaith, materion
amgylcheddol a materion megis adnewyddiadau prydlesau
a chaffaeliad eiddo. Eto, gall Cyfreithwyr Swayne
Johnson wneud y gwahaniaeth, gan sicrhau fod eich
rhwymedigaethau yn cael eu diwallu.
Cyfraith Trwyddedu
Os ydych yn ystyried un ai cymryd sefydliad drosodd
sydd eisoes yn bodoli neu sefydlu busnes newydd
sydd angen trwydded, yna dewch i’n gweld ni
yn gyntaf. Gyda’r holl drefniadau eraill i’w
gwneud, mae’n demtasiwn i adael rhai ohonynt
tan y funud olaf ond, os ydych yn gadael y Trwydded
Gwirod tan yn rhy hwyr, efallai y byddwch yn methu
eich dyddiad agor arfaethedig ac yn colli allan
ar lif arian sydd ei angen arnoch yn arw. Cofiwch
- dim ond apwyntiad byr fydd ei angen arnoch a gallwn
eich cynghori ynglyn â’r hyn sydd angen
ei wneud. Mi wnawn ni ofalu am y gwaith papur a
gwneud yn siwr bod y Drwydded gennych mewn da bryd.
• Cytundebau Partneriaeth
• Cytundebau Cyflogaeth
• Ffurfio Cwmni
• Caffaeliad Adeiladau Masnachu
• Esgeulustod/Niwsans
• Trwyddedu
• Cyfraith Contract
• Iechyd a Diogelwch
• Materion Amgylcheddol
• Prydlesau/Trwyddedau
• Telerau Masnachu
Yr ydym yn aelodau o’r cynlluniau
“Busnes yn y Gymuned” a “Cyfreithwyr
ar gyfer Eich Busnes”. Rydym hefyd yn Gyfreithwyr
Cysylltiol o Entrepreneur Action o ran eu Rhaglenni
twf a thwf uchel.
Cliciwch ar enw un o’n Harbenigwyr isod am
ragor o wybodaeth :
Edward Lloyd
Cyfreithiwr & Rheolwr Gyfarwyddwr
Pennaeth Adran Di–Gynnen
David Scott
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Pennaeth Adrannau Eiriolaeth & Anaf Personol
Richard Chamberlain
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Michael Tree
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Jon Moriarty
Pennaeth Adran Cyfraith Teulu
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
English