Mae ymgymryd â phrydles neu
drwydded fasnachol yn golygu risgiau, atebolrwydd,
a gallu. Mae ein gallu ni yn hanfodol er mwyn gwneud
yn siwr eich bod chi fel Landlord neu Denant yn
cael y telerau gorau posib ar gyfer eich busnes.
Dylech gysylltu â ni ar y cychwyn pan ydych
yn trafod telerau’r Brydles, a dylech gael
cefnogaeth tîm cyfreithiol diogel sydd â’r
wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â materion eiddo
masnachol y tu cefn i chi.
Dylech hefyd ystyried sut yr ydych am ariannu,
strwythuro ac, yn wir, waredu eiddo masnachol ar
eich marwolaeth. Mae’n bwysig cael y strwythur
cywir o’r cychwyn fel eich bod yn gallu gwneud
y mwyaf o unrhyw ryddhad rhag treth sydd ar gael
ac unrhyw gyfleoedd cynllunio.
Bydd ein harbenigwyr masnachol yng Nghyfreithwyr
Swayne Johnson yn sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor
gorau ym mhob maes. Gallant gynorthwyo gyda :
• Pryniant eiddo masnachol, boed yn rhydd-ddaliad
neu’n les ddaliad.
• Trafodaeth ynglyn â telerau.
• Adnewyddu tenantiaeth busnes.
• Sicrwydd deiliadaeth ar gyfer prydlesau
busnes sydd eisoes yn bodoli.
• Adolygiadau rhent a chyflafareddiad.
• Anghydfodau Landlord a Thenant.
• Trwyddedau a hawl meddiannu.
Olyniaeth i’ch Busnes
Mae angen i chi ystyried beth yw’r ffordd
orau i chi basio eich busnes ymlaen i’ch rhai
annwyl. Mae gostyngiad treth ar gael mewn rhai achosion,
a dylai gael ei ddefnyddio’n ddoeth.
Mae gennym arbenigwyr cynllunio Ystadau sy’n
gallu cynorthwyo gyda’r strwythurau treth
cywir, a darparu cyngor awdurdodol clir.
Cliciwch ar un o’n harbenigwyr isod am ragor
o wybodaeth :
Edward Lloyd
Cyfreithiwr & Rheolwr Gyfarwyddwr
Pennaeth Adran Di–Gynnen
Richard Chamberlain
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Michael Tree
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Caryl Vaughan
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Llyr Williams
Cyfreithiwr Cynorthwyol
English
|