.
 
 
Adref
gwasanaethau
proffiliau
newyddion ac archifau
Seminarau
canllaw gwybodaeth cleient
english
 
 

Yr ydym yn dîm o gyfreithwyr amheuthun ac unigryw, yn seiliedig yng Ngogledd Cymru, gyda swyddfeydd yn Ninbych a Llanelwy.

Yn ogystal â’r meysydd mwy traddodiadol o ymarfer cyfreithiol sy’n ymwneud â thir, gwaith llys, eiddo a busnes, gallwn wasanaethu’r Cleientiaid hynny sydd eisiau cyngor trylwyr ac arbenigol ym meysydd Eiriolaeth, Cynllunio Treth, Ewyllysiau, Profiant, Ymddiriedolaethau, Amaethyddiaeth, Gwaith Cwmni a Masnach a Chyfraith Cyflogaeth gymhleth o’n swyddfeydd yng Ngogledd Cymru.

Mae Cyfreithwyr Swayne Johnson yn draddodiadol wedi cynnal presenoldeb Stryd Fawr (a bydd yn parhau i wneud hyn), yn nhref Dinbych ac yn ninas Llanelwy. Mae’r presenoldeb hwn yn sicrhau fod lefel o arbenigedd ac o gyngor arbenigol ar gael heb fod angen mynediad i leoliadau canol dinas cymhleth. Mae hefyd yn sicrhau parhad ein hymroddiad i dwf y trefi yn unigol, a Cymru gyfan. Yr ydym yn un o’r prif gyflogwyr yn yr ardal, ac yr ydym yn meddu ar y wobr Buddsoddwyr Mewn Pobl.

Ein hathroniaeth yw i ‘wneud y gwahaniaeth’ ar gyfer ein cleientiaid. Yr ydym yn darparu cyngor awdurdodol mewn iaith glir a diamwys er mwyn datrys problemau.

Yr ydym yn gweithio dros ystod eang o gleientiaid, gan gynnwys unigolion preifat, busnesau, cyrff elus ennol, perchnogion tir a chyrff amaethyddol. Gallwn ddelio gyda datblygwyr eiddo ac adeiladwyr tai a busnesau cynghreiriol eraill a phryderon diwydiannol. Mae gennym hefyd gydgysylltiad gyda phractis cyfreithiol arbenigol sy’n ymwneud â mwynau, amgylchedd a thrafnidiaeth, a gall ein hymgynghorwyr gynnig cyngor ar Faterion Gwastraff ac Iechyd a Diogelwch.

Er ein bod yn seiliedig yn Llanelwy ac yn Ninbych, nid yw ein gwaith wedi ei gyfyngu i’r ardal leol. Mae ein cyfreithwyr yn gweithio ar achosion ledled y Gogledd Orllewin, De Lloegr a thramor yn gyson.

 

Swydd au yn Gyfreithwyr Swayne Johnson yma »

Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref (HIPs)! yma »

Paratoi Ewyllys? Dechreuwch y broses gyda ni ar-lein yma »

Swayne Johnson swyddfa newydd Llandudno yma »

ebost:law@swaynejohnson.com

Dinbych: 01745 812835
Ffacs: 01745 814852

Llanelwy: 01745 582535
Ffacs: 01745 584504

Rhuthun: 01824 703833
Ffacs: 01824 705071

Llandudno: 01492 876271
Ffacs: 01492 876274


Cyfreithwyr Swayne Johnson Cofrestrwyd yng Nhymru a Lloegr
Rhif : 5145640
Swyddfa Gofrestredig:
2 Sgwar y Neuadd
Dinbych, LL16 3PA

mwy»