Gall ysgariad a’r problemau
deillio ohono fod yn ofidus ac yn gostus os nad
ydych chi eich dau yn ffodus, neu yn dewis y cyfreithiwr
cywir, neu’r ddau!
Nid dim ond golygu fod dau berson yn gwahanu y
mae ysgariad. Bydd hefyd yn aml yn golygu fod yn
rhaid gwneud trefniadau priodol ar gyfer y plant
er mwyn lleihau’r aflonyddwch iddyn nhw. Yr
ydym yn gwybod y Gyfraith ac yn bwysicach yn gwybod
sut i wneud i’r gyfraith honno weithio drosoch
chi.
Byddwch angen sicrhau bod y trefniadau ariannol
mor fanteisiol i chi a’ch plant â phosibl.
Bydd hyn yn golygu trafod cynhaliaeth, perchnogaeth
a meddiannaeth o’r cartref priodasol blaenorol,
elw o unrhyw bolisïau yswiriant neu waddol
ac ystyried gwerth pensiwn y ddai ohonoch. Byddwn
yn eich cynghori ynglyn â’ch hawliau
a’ch cyfrifoldebau a sut i gael y canlyniad
gorau.
Y cyfreithiwr teulu gorau yw’r un sy’n
gallu diogelu eich buddiannau chi heb greu unrhyw
boen ychwanegol na chostau dianghenraid.
Mae cyfreithwyr yn ein Adran Cyfraith Teulu yn
aelodau o’r Solicitors Family Law Association,
ac mae ganddynt brofiad helaeth mewn ymdrin â
:
• Gwaharddebau;
• Achosion Deddf Plant;
• Anghydfodau Ariannol a Phensiwn;
• Ysgariad/Gwahaniad;
• a’r defnydd o Ymddiriedolaethau.
Os ydych yn dioddef oherwydd priod neu bartner
treisgar, gallwn eich helpu i gael gwaharddeb i
symud y priod neu bartner treisgar dan sylw o’r
ty bron ar unwaith.
Ein Harbenigwyr Cyfraith Teulu :
Jon Moriarty
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Pennaeth Adran Cyfraith Teulu
Rhys Williams
Cyfeithiwr & Chyfarwyddwr
English
|