22 MAI 2007 - Y LLYWODRAETH YN
CYHOEDDI NEWIDIADAU SYLWEDDOL I GYFLWYNIAD PECYNNAU
GWYBODAETH AM Y CARTREF (HIPs)
Er gwaetha'r ffaith fod y Llywodraeth wedi ein
sicrhau droeon y byddai'r Pecynnau Gwybodaeth am
y Cartref yn dod yn orfodol ar gyfer pob eiddo preswyl
fyddai'n cael ei roi ar y farchnad o'r 1af Mehefin
2007 ymlaen, maent 'nawr wedi penderfynu cyflwyno'r
Pecynnau hyn yn raddol.
Ers 10fed Medi 2007 mae'n orfodol comisiynu Pecyn
Gwybodaeth am y Cartref cyn marchnata ty gyda tair
neu fwy o ystafelloedd gwely. Mae'r Llywodraeth
yn bwriadu cyflwyno'r Pecyn Gwybodaeth am y Cartref
ar gyfer tai llai cyn gynted a phosib, ond nid oes
amserlen wedi ei gadarnhau ar gyfer hyn eto.
Ymddengys fod y sefyllfa yn eithaf ansefydlog ond
rydym ni yn Swayne Johnson yn cadw llygaid barcud
ar yr holl ddatblygiadau.
------------------------------------------------------
Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref (HIPs)!
O fis Mehefin 2007 mi fydd yn drosedd rhoi eich
eiddo ar y farchnad heb Becyn Gwybodaeth am y Cartref.
Gall Cyfreithwyr Swayne Johnson eich cynghori a
pharatoi'r Pecyn ar eich rhan.
Rhowch glic
yma i fynd i wefan swyddogol Pecynnau Gwybodaeth
am y Cartref
Rhowch glic
yma i weld y diweddaraf gan Michael
Tree, Cyfreithiwr a Chyfarwyddwr yn Swayne Johnson
Cysylltwch a
Michael Tree ar 01745
818 255 neu trwy e-bost
(clic)
Caryl Vaughan ar 01745
818 278 neu trwy e-bost
(clic)
Jeff Vickers ar 01492 550 694 neu trwy e-bost
(clic)
English
|