.
 
 
Adref
gwasanaethau
proffiliau
newyddion ac archifau
Seminarau
canllaw gwybodaeth cleient
english
 
 

Mae bron pob sefydliad bellach yn honni eu bod yn gallu cynnig cyngor i chi ar werthu a phrynu cartref. Pwy fedrwch chi ymddiried ynddynt i roi’r cyngor iawn i chi?

Yn draddodiadol, Cyfreithwyr sydd wedi bod, ac a fydd yn parhau i fod yr unig wir ffynhonnell annibynnol o gyngor a chymorth yn y maes hwn. Ein polisi ni yw sicrhau fod cleientiaid yn derbyn gwasanaeth ymgynghorol cwbl annibynnol o’r foment yr ydych yn ystyried rhoi eich eiddo ar y farchnad, hyd at yn bell wedi’r cwblhad. Gallwn :
• Awgrymu Asiantaethau Tai da, effeithlon a pharchus trwy ddefnyddio ein gwybodaeth am yr ardal leol a’r gymuned fusnes.
• Edrych ar eich cynnig morgais, er mwyn sicrhau eich bod wedi derbyn y cynnig yr ydych yn credu eich bod yn ei gael ac er mwyn sicrhau y bydd er eich pennaf lles chi yn ariannol.
• Ar eich cais, eich cyfeirio at ymgynghorydd ariannol cwbl annibynnol, sy’n cael ei ddefnyddio gan gwmnïau proffesiynol yn unig, ac nad yw ar gael ar y Stryd Fawr.
• Defnyddio technoleg gyfoes er mwyn sicrhau bod eich pryniant yn mynd ymlaen mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl.
• Cynnig cyngor ar berchnogaeth eiddo ar y cyd, datganiadau o ymddiriedolaeth a’r goblygiadau.
• Cysylltu gyda chi trwy gydol yr amser fel eich bod yn gwybod beth sy’n digwydd a pham.

Yr ydym yn ymfalch?o yn y ffaith ein bod yn cynnal cysylltiad personol agos gyda’n cleientiaid fel eich bod yn gwybod bod gennych rywun ar eich ochr bob amser. Nid yw prynu a gwerthu tai mor syml y dyddiau hyn ag yr oedd yn arfer â bod, nac y dylai fod. Sicrhewch eich bod yn cael y cyngor cywir cyn i chi ddechrau.

Mae ein harbenigwyr hefyd yn gallu ymdrin â materion eiddo cymhleth eraill, megis :
• Hawl tramwy
• Tir fferm
• Hawddfreintiau
• Treth
• Prydlesau

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar enw un o’n harbenigwyr isod :

Edward Lloyd
Cyfreithiwr & Rheolwr-Gyfarwyddwr
Pennaeth Adran Di-gynnen

Michael Tree
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Caryl Vaughan
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Llyr Williams
Cyfreithiwr Cynorthwyol

English

 

Swydd au yn Gyfreithwyr Swayne Johnson yma »

Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref (HIPs)! yma »

Paratoi Ewyllys? Dechreuwch y broses gyda ni ar-lein yma »

Swayne Johnson swyddfa newydd Llandudno yma »

ebost:law@swaynejohnson.com

Dinbych: 01745 812835
Ffacs: 01745 814852

Llanelwy: 01745 582535
Ffacs: 01745 584504

Rhuthun: 01824 703833
Ffacs: 01824 705071

Llandudno: 01492 876271
Ffacs: 01492 876274


Cyfreithwyr Swayne Johnson Cofrestrwyd yng Nhymru a Lloegr
Rhif : 5145640
Swyddfa Gofrestredig:
2 Sgwar y Neuadd
Dinbych, LL16 3PA

mwy»