Yn Swayne Johnson mae gennym nifer
o Gyfreithwyr Ymddiriedolaeth Arbenigol sy’n
gallu cynghori ynglyn â phob math o Ymddiriedolaethau
gan gynnwys creu, gweinyddu a diddymu ymddiriedolaethau.
Mae’r maes hwn o gyfraith yn dod yn fwyfwy
cymhleth ond mae ymddiriedolaethau yn parhau i fod
yn ddyfais cynllunio ystadau defnyddiol iawn ar
gyfer y rhai hynny sy’n dymuno gwarchod asedau
ar gyfer cenedlaethau i ddod neu gynnal cynllunio
treth. Trwy ymgorffori ymddiriedolaeth wedi ei ddrafftio’n
ofalus i’ch ewyllys gallwch arbed hyd at £120,000.00
mewn Treth Etifeddiant i’ch teulu!
Gyda newidiadau yn cael eu cyflwyno i’r modd
y mae ymddiriedolaethau yn cael eu trethu, dylai
cyngor arbenigol gael ei gymryd ar y cyfle cyntaf
posibl. Mae ein harbenigwyr yn ymgymryd â
gwaith ymgynghorol ar ran busnesau eraill yn y maes
hwn, gan gynnwys cwmnïau o Gyfreithwyr a Chyfrifwyr.
Byddwn yn falch o gynorthwyo gweithwyr proffesiynol
eraill mewn modd tebyg neu gynghori cleientiaid
presennol a newydd ar eu problemau neilltuol hwy.
Mae ein Cyfreithwyr hefyd yn cynnal seminarau yn
aml er budd cleientiaid a chyd-weithwyr proffesiynol
– cliciwch ar y ddolen i archebu lle yn awr
ar gyfer y seminar nesaf.
Cliciwch ar enw un o’n Cyfreithwyr arbenigol
isod am ragor o wybodaeth :
Richard Chamberlain
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Sarah Noton
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Judy Lewis
Cyfreithiwr Cysylltiol
Lynette Viney-Passig, LL.B.
(Anrhydedd)
Cyfreithiwr Cysylltiol
Dilwyn Jones
Gweithredydd Cyfreithiol
English
|