.
 
 
Adref
gwasanaethau
proffiliau
newyddion ac archifau
Seminarau
canllaw gwybodaeth cleient
english
 
 

Wrth baratoi ewyllys rydych yn ymdrin â’ch holl nwyddau bydol. O ystyried amser a’r ymdrech y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei roi i mewn i gael y nwyddau hyn, ymddengys yn ddigon synhwyrol eich bod yn cael dweud beth sy’n digwydd iddynt pan ydych chi’n marw.

Os nad ydych yn paratoi ewyllys, bydd y Gyfraith Diewyllysedd yn dweud sut y bydd eich ystâd yn cael ei rhannu. Yn blaen, efallai nad yw’r rheolau hyn wrth eich bodd chi na’r rhai hynny yr ydych yn eu gadael ar ôl. O dan y rheolau hyn, mae pob person sydd yn yr un perthynas â chi (ee Neiaint & Nithoedd) yn cael eu trin yn yr union yr un fath.

Proses Meddylgar

Mae llunio Ewyllys yn dasg sy’n gofyn am gryn feddwl a gofal, ynghyd â’r angen am arbenigedd cyfreithydd mewn drafftio. Nid gosod eich dymuniadau ynglyn â gwarediad eich ystâd yn unig y mae Ewyllys. Gall ewyllys weithredu fel dyfais arbed treth effeithiol ar yr un pryd. Er enghraifft, ar gyfer y cyplau hynny sydd ag ystadau, ar y cyd, sydd yn werth mwy na £600,000 (Blwyddyn dreth 2007/08), gall ewyllys wedi ei drafftio’n briodol arbed £120,000.00 mewn Treth Etifeddiant.

Ar gyfer y rhai hynny sydd â dibynyddion, yn arbennig plant, mae ystyriaethau eraill yn berthnasol - sef Gwarcheidwadaeth. Pe digwydd marwolaeth, sut y dylai asedau gael eu defnyddio ar gyfer eu cynhaliaeth. Yma mae’n bwysig ystyried a ydi breintiau marwolaeth, pa un ai ydynt o gynlluniau yswiriant bywyd neu o gynlluniau pensiwn, nid yn unig yn dreth-effeithlon oddi fewn i’r ystâd, ond hefyd yn cyfarfod â dymuniadau’r teulu ar gyfer y dyfodol.

• Peidiwch a gadael i’r wladwriaeth benderfynu beth sy’n digwydd i’ch ystâd
• Darparwch ar gyfer dibynyddion, fel yr ydych CHI’n dymuno
• Gadewch anrhegion penodol i rai annwyl
• Gwarchodwch Asedau teuluol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
• Arbedwch ar dreth a ffioedd trwy gynllunio ymlaen llaw

Cliciwch ar un o’n harbenigwyr isod am ragor o wybodaeth :

Richard Chamberlain
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Sarah Noton
Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Dilwyn Jones
Gweithredydd Cyfreithiol

Judy Lewis
Cyfreithiwr Cysylltiol

Lynette Viney-Passig, LL.B. (Anrhydedd)
Cyfreithiwr Cysylltiol

Llyr Williams
Cyfreithiwr Cynorthwyol

English

 

Swydd au yn Gyfreithwyr Swayne Johnson yma »

Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref (HIPs)! yma »

Paratoi Ewyllys? Dechreuwch y broses gyda ni ar-lein yma »

Swayne Johnson swyddfa newydd Llandudno yma »

ebost:law@swaynejohnson.com

Dinbych: 01745 812835
Ffacs: 01745 814852

Llanelwy: 01745 582535
Ffacs: 01745 584504

Rhuthun: 01824 703833
Ffacs: 01824 705071

Llandudno: 01492 876271
Ffacs: 01492 876274


Cyfreithwyr Swayne Johnson Cofrestrwyd yng Nhymru a Lloegr
Rhif : 5145640
Swyddfa Gofrestredig:
2 Sgwar y Neuadd
Dinbych, LL16 3PA

mwy»