English

Gwybodaeth amdanom ni

Mae cwmni Cyfreithwyr Swayne Johnson yn gwmni cyfreithiol sy'n cynnig gwasanaeth llawn, yn gwasanaethu unigolion a busnesau ar draws gogledd Cymru, a ledled Cymru a Lloegr hefyd. Gallwn olrhain ein gwreiddiau yn ôl i'r 1850au, ac erbyn hyn mae'r cwmni yn cynnwys 15 cyfreithiwr, 9 Cyfarwyddwr a chyfanswm o 50 o staff sy'n gweithio mewn timau arbenigol.

Mae gennym ni swyddfeydd ar draws Gogledd Cymru, yn Llandudno, Dinbych, Llanelwy a Rhuthun. Mae'r practis yn cynnwys cwmni Chamberlain Johnson & Parke yn Llandudno a Michael Taylor & Co yn Rhuthun. Rydym ni'n ymfalchio ein bod yn medru darparu ystod eang o wasanaethau cyfreithiol arbenigol y cred rhai cleientiaid eu bod ar gael gan gwmniau mawr yng nghanol dinasoedd yn unig, ond a gynigir yn awr o bob un o'n swyddfeydd ni.

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

Ymrwymiad personol a gwasanaeth o'r ansawdd uchaf sy'n diffinio ein dull o ymdrin â chleientiaid, sy'n cael cyngor gan gyfreithwyr arbenigol yn eu cymuned. Un o'n cryfderau yw ein hymrwymiad i wasanaeth personol. Dydyn ni ddim yn credu mewn defnyddio staff heb gymhwyso i wneud gwaith cyfreithiol, ac mae ein cleientiaid ni'n gwerthfawrogi'r gwahaniaeth.

Dangosir ein hymrwymiad i hyn trwy'r dyfarniadau a'r achrediadau isod, sy'n rhoi sicrwydd am ansawdd y gwasanaeth a'r cyngor a ddarperir:

Mae ein strwythur ffioedd yn onest a thryloyw, a chynigir dewisiadau talu hyblyg wedi'u teilwra i anghenion bob cleient. Mae ein dull ymarferol o ddatrys problemau wedi meithrin enw da eang a chadarn am wasanaeth o'r radd flaenaf i'r cwmni. Rydym ni'n cadw cysylltiad â swyddogion proffesiynol eraill blaenllaw yn eu maes er mwyn sicrhau bod amrediad eang o gyngor ar gael i'n cleientiaid ar lefel arbenigol priodol, a chynigiwn wasanaeth cwbl ddwyieithog.

Ein hathroniaeth ydi gwneud gwahaniaeth i'n cleientiaid, a rhoi cyngor awdurdodol mewn modd eglur a chost effeithiol. Mae ein cleientiaid yn ein defnyddio ni am ein bod ni'n gwrando arnyn nhw, ac yn deall beth mae nhw'n ceisio ei gyflawni, ac yn cymryd camau ymarferol i wireddu eu hamcanion.

Ffoniwch y rhif 0800 328 9631 am ddim i gael ymgynghoriad â chyfreithiwr o Swayne Johnson, neu anfonwch neges e-bost: cyfraith@swaynejohnson.com.

English

Cysylltwch ag unrhyw un o'n swyddfeydd yn uniongyrchol:

Dinbych
2 Sgwâr y Neuadd
Dinbych
LL16 3PA

Rhif: 01745 812 835
Ffacs: 01745 814 852
DX: Denbigh 23284

Llanelwy
Ty'r Eglwys
Stryd Fawr
Llanelwy
LL17 0RD

Rhif: 01745 582 835
Ffacs: 01745 584 504
DX: St Asaph 18231

Llandudno
17 Sgwâr y Drindod
Llandudno
LL30 2RN

Rhif: 01492 876 271
Ffacs: 01492 876 274
DX: Llandudno 11356

Rhuthun
Llanrhydd Manor
Ffordd Llanrhydd
Rhuthun
LL15 1PP

Rhif: 01824 703 833
Ffacs: 01824 705 071
DX: Ruthin 21833

 

Am unrhyw broblem neu holiad gydar wefan cysylltwch a ni os gwelwch yn dda yma

 

Offers and Events


Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.


Footer