Damweiniau yn y Gwaith
Os ydych chi wedi dioddef anafiadau Corfforol o ganlyniad i ddamwain yn y gwaith, yna gallwn ni eich cynghori chi ynghylch cyflwyno cais am ddiogelu ariannol, hyd yn oed os oedd peth bai arnoch chi am y ddamwain.
Gallwn eich cynghori p'un ai ydych chi'n debygol o lwyddo i brofi mai bai eich cyflogwr oedd y ddamwain. Byddai eich cyflogwr ar fai os deilliodd y ddamwain o esgeulustod y cyflogwr neu o dorri un o'r llu o ddyletswyddau statudol sy'n berthnasol i gyflogwyr a phobl hunangyflogedig.
Gwnaed llu o reoliadau dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 er budd cyflogeion. Os achoswyd eich anaf Corfforol gan nad oedd eich cyflogwr wedi cydymffurfio ag un neu ragor o'r rheoliadau niferus hyn, yna bydd gennych chi hawl i'ch digolledu am yr anafiadau Corfforol y gwnaethoch eu dioddef ac am unrhyw golledig ariannol yn deillio o hynny, yn cynnwys colli enillion.
Rhai o'r rheoliadau niferu a allai fod yn berthnasol ydy:
Y gwahanol fathau o ddigollediad:
Yn arferol cyfeirir at y diogellu am anafiadau Corfforol fel "iawndal cyffredinol" neu "iawndal am boen a dioddefaint a diffyg amwynder". Bydd y rhan hon o'r digolledu yn dibynnu ar natur yr anafiadau rydych chi wedi'u dioddef, y ffordd mae'r anafiadau wedi effeithio ar eich bywyd a ph'un ai y byddwch chi'n cael adferiad llwyr neu'n cael eich gadael â symptomau tymor hir.
Yn ychwanegol at dâl digolledu am yr anafiadau corfforol, fe allech chi fod â'r hawl i iawndal am effaith seicolegol y ddamwain a'i chanlyniadau.
Mathau eraill o ddigolledu:
Efallai y bydd yn bosibl i chi hawlio am golledion ariannol yn deillio o'r ddamwain, yn ogystal ag iawndal cyffredinol. Cyfeirir at y rhain fel "iawndal arbennig" a gallai gynnwys colli enillion, gwerth eitemau a ddifrodwyd yn y ddamwain, cost unrhyw driniaeth feddygol breifat a gofal a chymorth (neu werth y gofal hwnnw os yw'n cael ei ddarparu'n wirfoddol - e.e. gan aelod o'r teulu neu ffrind), costau teithio ychwanegol a chostau eitemau a brynwyd i'ch galluogi i ymdopi â'r anafiadau yn well.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar y gwefannau isod:
APIL (Association of Personal Injury Lawyers) www.apil.org.uk
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch www.hse.gov.uk
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth llenwch a dychwelyd ein ffurflen Anafiadau Corfforol neu Gyfreitha Sifil os gwelwch yn dda, neu gysylltu â David Scott neu Rhys Williams.
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
David Scott - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Rhys Williams - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.