Os ydych chi'n sefydlu busnes newydd, neu'n holi eich hun ai'r ffordd rydych chi'n masnachu ar hyn o bryd ydy'r ffordd orau a mwyaf effeithlon ar gyfer eich gofynion chi, pam na wnewch chi ofyn i un o'n cynghorwyr arbenigol am gyngor a gwybodaeth i'ch helpu chi benderfynu.
A ydych chi'n fasnachwr unigol neu'n bartneriaeth ar hyn o bryd ac yn ystyried ymgorffori fel cwmni cyfyngedig? A ydych chi a'ch cydweithwyr yn bartneriaeth heb i chi sylweddoli hynny (ydy, mae'r fath beth yn bosibl!!)? A ydych chi'n fudiad elusennol sy'n meddwl am fynd yn gorfforedig fel cwmni wedi'i gyfyngu trwy warant? A ddylai eich partneriaeth bresennol ystyried bod yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig? A ydych chi'n sefydliad cymunedol nid er elw a fyddai'n elw o fod yn Gwmni Budd Cymunedol?
Os ydych chi wedi gofyn unrhyw un o'r cwestiynau hyn i chi'ch hun, neu hyd yn oed os nad ydych chi, beth am ddod draw a thrafod materion yn fwy manwl gyda'n cynghorwyr arbenigol. Fe wnawn ni ddefnyddio ein gwybodaeth a'n profiad i'ch helpu chi i fasnachu mor effeithiol ac effeithlon ag y bo modd heb gyfaddawdu ethos a moeseg eich busnes.
Pa bynnag strwythur busnes rydych chi'n ei fabwysiadu, os yw'n ymwneud â mwy nag un unigolyn, mae'n arferiad da cael cytundeb ysgrifenedig. Cyfyd problemau mewn pob math o fusnesau, a gall y dogfennau llywodraethu priodol ddarparu fframwaith ar gyfer datrys problemau o'r fath, neu gallai bod angen gweithredu trwy'r llysoedd fel arall, sy'n gostus. Gall cytundeb partneriaeth neu gytundeb cyfranddalwyr wedi'i lunio'n gywir fod yn hanfodol bwysig wrth ddelio â materion fel datrys anghydfod, ymddeoliad ac olyniaeth. Gall ein harbenigwyr ni eich cynghori chi am ffurf a chynnwys cytundebau o'r fath i ddiwallu eich anghenion chi.
 
Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Edward Lloyd - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Caryl Vaughan - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Llyr Williams - Cyfreithiwr Cyswllt
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.