Rydyn ni'n ymfalchio yn nifer yr elusennau rydyn ni'n gweithio gyda nhw ac ar eu rhan.
Mae llawer o'n Cyfarwyddwyr a'n Cyfreithwyr â swyddogaethau mewn elusennau lleol, ac rydyn ni'n gweithredu ar ran nifer fawr o fudiadau elusennol.
Gall ein Cyfreithwyr arbenigol, profiadol, eich cynghori ynghylch:
Ffurfio:
P'un ai ydych chi'n ystyried sefydlu cwmni elusennol, cwmni budd cymunedol, cymdeithas
anghorfforedig, ymddiriedolaeth elusennol neu fudiad gwirfoddol, gallwn eich cynghori chi
ynghylch y strwythur mwyaf addas a llunio'r dogfennau sy'n ofynnol.
Cofrestru:
Gallwn baratoi a chyflwyno'r cais i gofrestru â'r Comisiwn Elusennau.
Gweinyddu:
Rydyn ni’n deall y pwysau'n gysylltiedig â chynnal elusen o ddydd i ddydd. Rydyn ni wrth law
i roi cyngor a chefnogaeth ar bob agwedd o'r drefn a chydymffurfio â gofynion meysydd fel
cyflogaeth a rheoli risg.
Rydyn ni ar gael hefyd i gynghori ynghylch unrhyw drafodion mwy sylweddol a all ddigwydd o dro i dro, megis prynu neu brydlesu eiddo, a chyfuno mudiadau elusennol.
Mae ein tîm ymroddgar o Gyfreithwyr arbenigol yn gweithio'n agos â'u cydweithwyr proffesiynol fel cynllunwyr, syrfewyr, cyfrifwyr a bancwyr i sicrhau mynediad llawn i'r holl arbenigedd sy'n ofynnol.
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Sarah Noton - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Lynette Viney-Passig - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Llyr Williams - Cyfreithiwr Cyswllt
David Hooson - Ymgynghorwyr
Michael Taylor - Ymgynghorwyr
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.