Materion yn ymwneud â phlant
Lles eich plentyn/plant yw'r peth pwysicaf yn eich bywyd mwy na thebyg ond, yn anffodus,
nid yw'n anghyffredin i anghydfod godi am y plant pan fo perthynas yn chwalu. Mae datrys
y mater o fudd i bawb. Serch hynny, mewn rhai achosion gall fod yn angenrheidiol troi at
gyfreithwyr a'r llysoedd i gynorthwyo gyda setlo'r materion. Dyma lle bo arnoch chi angen
cyngor gonest, sympathetig ac effeithiol.
Cyfrifoldeb Rhiant
Lle bo mam a thad plentyn yn briod, bydd y ddau yn cael cyfrifoldeb rhiant yn awtomatig.
Os nad yw'r rhieni yn briod , dim ond y fam sydd yn cael cyfrifoldeb rhiant yn awtomatig oni
bai fod y tad wedi ei enwi ar y dystysgrif geni ar gyfer unrhyw blentyn sydd wedi ei eni ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2003.
Os nad yw hyn yn berthnasol, gall y tad gael cyfrifoldeb rhiant mewn un o dair ffordd:
- drwy gael caniatâd y fam;
- drwy gyflwyno cais i'r llys am orchymyn cyfrifoldeb rhiant neu
- drwy briodi'r fam
- by obtaining a residence order.
Newid enw plentyn
Weithiau yn dilyn tor-perthynas mae un parti yn canfod eu bod yn gofalu am y plant ar sail amser
llawn ac efallai y byddant yn dymuno newid enw'r plentyn. Mae llawer o sefyllfaoedd lle gall hyn
ddigwydd. Efallai nad yw'r rhieni yn briod a bod y tad yn dymuno i'r plentyn arddel ei gyfenw, neu
efallai bod y fam yn dymuno defnyddio ei chyfenw gwreiddiol ar ôl ysgaru ac yn dymuno newid
yfenw'r plentyn hefyd. Bydd angen caniatâd y rhiant arall arnoch ac unrhyw unigolyn arall â
chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
Sut mae'r llysoedd yn ymdrin ag anghydfodau ynghylch plant?
Os yw anghydfod am blant yn arwain at achos llys, mae gan y llys y pwerau isod:
Gorchymyn Preswylio
- Bydd y llys yn penderfynu efo pwy mae'r plentyn yn mynd i fyw.
Cyswllt
- mae hyn yn penderfynu pa mor aml fydd y plentyn yn gweld y rhiant
nad ydynt yn byw gydag ef/hi. Gall y llys benderfynu ar ba mor aml y bydd cysylltiad
rhyngddynt a sut bydd hynny'n gweithredu. Golyga hyn y gall y llys nodi pryd a lle y bydd
y cyfnod cyswllt yn digwydd, ac a fydd yn gyswllt aros, sy'n golygu y bydd y plentyn yn
aros dros nos gyda'r rhiant nad ydynt yn byw gydag ef/hi.
Mater penodol
- os na all y rhieni gytuno i ba ysgol y dylai'r plentyn fynd neu ba
grefydd i'w dilyn, neu petai un rhiant yn dymuno symud y plentyn o'r wlad hon yn barhaol ac
nad yw'r rhieni yn medru cytuno ar y materion hyn, bydd y llys yn gwneud y penderfyniad, gan
roi lles y plentyn yn gyntaf, ar ôl ystyried yr holl amgylchiadau.
Gorchymyn Camau Gwaharddedig
- bydd hyn yn rhoi cyfyngiadau ar y naill riant o
ran yr hyn y gallant neu na allant ei wneud gyda'r plentyn, er enghraifft, symud y plentyn o'r wlad hon.
Y tair egwyddor isod fydd yn cael y flaenoriaeth uchaf gan y llys:
- Lles y plentyn yw'r ystyriaeth bwysicaf;
- Bydd y llys yn ystyried yr egwyddor gyffredinol fod unrhyw oedi yn debygol o niweidio lles y plentyn; a
- Ni fydd y llys yn gwneud gorchymyn onibai ei fod yn ystyried y byddai gwneud hynny yn well i'r plentyn na pheidio â gwneud unrhyw orchymyn o gwbl
Wrth benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn bydd y llys yn ystyried:
- Teimladau a dymuniadau a fynegwyd gan y plentyn dan sylw (gan ystyried oedran a dealltwriaeth y plentyn) ;
- Anghenion corfforol, emosiynol ac addysgol y plentyn;
- Effaith tebygol unrhyw newid yn ei amgylchiadau ar y plentyn;
- Oedran, rhyw a chefndir y plentyn ac unrhyw nodwedd arall y mae'r llys yn ei ystyried yn berthnasol;
- Unrhyw niwed a ddioddefodd y plentyn neu y mae perygl iddo'i ddioddef;
- Gallu pob un o rieni'r plentyn, ac unrhyw unigolyn arall y mae hyn yn berthnasol iddynt ym marn y llys, i ddiwallu anghenion y plentyn;
- Ystod y pwerau sydd ar gael i'r llys dan y Ddeddf Plant yn yr achos dan sylw.
Yn unol â'r Ddeddf Plant bydd y llys yn gwneud gorchymyn preswylio ffurfiol, neu unrhyw orchymyn
arall, pan fo anghydfod yn unig - fel arall ni wneir unrhyw orchymyn. Hefyd tybir na ddylai'r llys
ymyrryd onibai bo hynny er budd gorau'r plentyn. Wrth wneud unrhyw benderfyniad prif ystyriaeth y
llys yw lles y plentyn.
Efallai eich bod chi wedi clywed am CAFCASS Cymru - y Gwasaneth Cynghori a Chefnogi Plant a Theulu Cymru.
Mae CAFCASS Cymru yn cynghori'r llys ar yr hyn mae nhw'n feddwl sydd orau ar gyfer y plentyn. Mae nhw'n
gweithio gyda'r plant a'u teuluoedd ac yn gwneud argymhellion ir llys. Gall CAFCASS gynnal
gwiriadau gyda sefydliadau eraill fel rhan o'u gwaith i sicrhau diogelwch plant.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth lawrlwythwch ein taflenni gwybodaeth am ysgariad a'r dewisiadau amgen yn hytrach nag ysgariad.
English
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Jon Moriarty
- Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Rhys Williams
- Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Jason Mclellan
- Cyfreithiwr Cyswllt
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.