Cyfraith Cydweithrediadol

Gall ysgariad fod yn flêr iawn. Onid dyna mae pobl yn ei ddweud?

Ond nid oes rhaid iddi fod felly. Mae ffordd arall.

Cyfraith Cydweithrediadol yw'r enw ar ddull newydd a gynigir i barau sy'n gwahanu. Rhoir cyfle i'r ddau briod/partner weithio gyda'i gilydd, gyda chyngor a chymorth gan eu cynghorwyr cyfreithiol eu hunain, i gyrraedd setliad teg, heb droi at y llys. Gyda'n gilydd gallwn ddatrys yr holl faterion sy'n deillio o ysgariad/wahanu mewn modd sy'n cynnig parch ac urddas.

Mae'r broses Cyfraith Gydweithrediadol yn cynnwys trafodaethau anffurfiol a chyfarfodydd ar y cyd rhwng y ddau briod/partner a'u cynghorwyr cyfreithiol gyda'r diben o gytuno ar yr holl faterion yn ymwneud â'r ysgariad/gwahanu, y plant a materion ariannol.

Y nod yw canfod y ffordd orau o symud ymlaen i'r teulu cyfan.

Mae cwmni Cyfreithwyr Swayne Johnson yn un o nifer fechan yn unig o gwmni'au yn ardal Gogledd Cymru â dau Gyfreithiwr Cydweithrediadol arbenigol cymwysedig.

English

Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi

 

Jon Moriarty - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Rhys Williams - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Jason Mclellan - Cyfreithiwr Cyswllt

 

 

 

Offers and Events

Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.


Footer