Yma yn Swayne Johnson mae gennym ni brofiad helaeth o ddelio â thrawsgludo a materion cysylltiedig. Gall 'trawsgludo' - yn ei hanfod gweithredu cyfraith Cymru a Lloegr yn ymarferol yng nghyswllt tir - fod yn faes hynod o dechnegol ac mae'n newid yn barhaus.
Rydyn ni'n ymfalchio yn ein gallu i ddelio â'r ystod llawn o waith eiddo - o eiddo preswyl i ddatblygiadau preswyl i gynghori ystadau ar faterion cyfraith eiddo. Mae gennym ni berthynas gref wedi'i hen ymsefydlu â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes eiddo, megis asiantau tir ac ymgynghorwyr cynllunio.
Yn wahanol i lawer o gwmniau cyfreithiol eraill, nid yw Swayne Johnson yn cyflogi unrhyw staff digymhwyster i wneud gwaith trawsgludo. Felly mae gennych chi'r sicrwydd o wasanaeth proffesiynol o'r safon uchaf trwy gydol y broses. Lle bo'n briodol gallwn fanteisio ar arbenigedd ein cydweithwyr a all gynghori ynghylch materion cysylltiedig fel cynllunio ar gyfer treth, ewyllysiau ac unrhyw anghydfod ynghylch eiddo.
Mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw aelod o'n t&icric;m trawsgludo i drafod eich gofynion.
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
Michael Tree - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Edward Lloyd - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Caryl Vaughan - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Llyr Williams - Cyfreithiwr Cyswllt
Jonathon Hogg - Cyfreithwyr Cynorthwyol
Natalie Downes - Cyfreithwyr Dam Hyfforddiant
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.