Mae'r Llys Gwarchod yn bodoli i ofalu am faterion ariannol y bobl hynny nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud hynny eu hunain mwyach.
Nid yw'r Llys yn ymyrryd heb gais gan berthynas neu unigolion eraill megis ffrindiau neu gymdogion sy'n pryderu am rhywun a'u hanallu i reoli eu materion ariannol eu hunain yn foddhaol.
Nid yw'r Llys Gwarchod yn sefydliad i'w ofni ac, yn wir, dylid croesawu ei swyddogaeth. Yr unig beth sy'n bwysig i'r Llys yw'r unigolyn y mae angen gofalu am ei faterion ariannol.
Bydd y Llys yn sicrhau y penodir Dirprwy i weithredu ar ran yr unigolyn na all ofalu am ei faterion ei hun mwyach. Rôl y Dirprwy yw gweithredu yn effeithiol fel Rheolwr ac Ymddiriedolwr dros faterion personol yr unigolyn analluog.
Gall y Dirprwy fod yn aelod o'r teulu neu'n swyddog proffesiynol.
Gall y rôl yma fod yn feichus o ran amser, yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn dan sylw a natur materion personol ac ariannol yr unigolyn hwnnw. Tra gall enwebu aelod o'r teulu ymddangos fel petai'n arbed arian, bydd defnyddio swyddog proffesiynol yn rhoi mwy o arbenigedd ac annibyniaeth, na ellir ei sicrhau gan berthynas teuluol agos ymhob achos.
Os cyfyd anghydfod rhwng y teulu neu unrhyw ffrindiau sy'n awyddus i gael eu penodi yn unrhyw achos yna bydd annibyniaeth Dirprwy proffesiynol yn amhrisiadwy.
Mae'r Llys Gwarchod yn rhan o Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus - sef cangen weinyddol y Llys Gwarchod a sefydlwyd yn 2001. Cymrodd yr awennau gan y cyn Swyddfa Ymddiriedau Gyhoeddus. Diben Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw darparu gwasanaethau sy'n hyrwyddo lles ariannol a chymdeithasol unigolion sydd wedi colli eu galluedd meddyliol.
Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwarchod y rhai na allant wneud hynny eu hunain drwy reoli eu Dirprwyon ar ôl iddynt gael eu penodi gan y Llys Gwarchod, a gwneir hyn drwy alw am gyfrifon ac adroddiadau ariannol blynyddol, a thrwy ddarparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd y rhai sy'n analluog yn ogystal ag i'w cynghorwyr.
Gall Swayne Johnson gynnig cymorth sylweddol i deuluoedd a ffrindiau unigolion sydd wedi colli eu galluedd meddyliol yn sgîl salwch neu ddamwain. Yn aml mae'r teulu a'r ffrindiau yn gyndyn o lunio trefniant ffurfiol drwy Lys. Fodd bynnag, mae'r cyfreithwyr yn Swayne Johnson yn gyfarwydd iawn gyda'r broses (fel y gwelir o'r ffaith bod tri ohonynt wedi bod yn Ddirprwyon wedi'u penodi gan y Llys ers sawl blwyddyn) a gallant gynnig cyngor ynghylch cael Gorchymyn Llys Gwarchod a sut i'w reoli yn ogystal â materion cysylltiedig megis cynllunio ar gyfer treth ar ran yr unigolyn analluog a llunio Ewyllys Statudol - Ewyllys Statudol yw dogfen a lunir i weithredu fel Ewyllys unigolyn, er nad oes ganddo/ganddi'r galluedd meddyliol i lunio ewyllys eu hunain.
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Sarah Noton - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Lynette Viney-Passig - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Judy Lewis - Cyfreithiwr Cyswllt
Marc Thomas - Cyfreithwyr Cynorthwyol
Rachel Brown - Cyfreithwyr Cynorthwyol
Emma Deering - Gweithredydd Cyfreithiol
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.