Yng Nghymru a Lloegr ni chewch gychwyn achos ysgariad nes i chi fod yn briod am o leiaf blwyddyn. Un sail yn unig sydd ar gyfer ysgariad, sef bod y berthynas 'wedi chwalu heb obaith o'i hadfer'. Er y bu galw am ysgariad heb fwrw bai, mae'n parhau yn ofynnol i chi ddarparu tystiolaeth bod y briodas wedi chwalu heb obaith o'i hadfer oherwydd un o bump ffaith:
Er bod y broses cael ysgariad yn weddol syml, yn aml mae materion cymhleth yn gysylltiedig â'r broses. Felly mae'n hanfodol bwysig eich bod chi'n cael cyngor cyfreithiol priodol ar y cyfle cyntaf posibl.
Yn unol â'r protocol cyfraith teulu rydym ni'n ei ddilyn, argymhellir anfon llythyr at y sawl fydd yn derbyn y ddeiseb (yr Atebydd) yn cynghori y bwriedir cyflwyno'r ddeiseb, cyn cyflwyno'r ddeiseb ysgar gan y llys. Diben hyn yw ceisio cytuno ar y sail ar gyfer y ddeiseb ac i roi cyfle i'r sawl fydd yn derbyn y ddeiseb gael cyngor cyfreithiol annibynnol.
Bydd yr holl ddogfennau'n cael eu hanfon i'r Llys Sirol lleol, a fydd yn postio'r dogfennau i'r parti arall. Mae'r dogfennau hyn yn cynnwys ffurflen 'Cydnabod Cyflwyno' y bydd yn ofynnol i'r Atebydd ei llenwi a'i dychwelyd i'r llys neu i'w gyfreithwyr cyn pen 7 diwrnod. Diben y ffurflen hon yw cydnabod bod yr Atebydd wedi derbyn y ddeiseb ysgar a dynodi p'un ai yw'n bwriadu amddiffyn y ddeiseb ai peidio. Os nad yw'r Atebydd yn llenwi a dychwelyd y ffurflen, gwneir trefniadau i gyflwyno'r dogfennau yn bersonol gan Feili'r llys neu Gyflwynydd Gwysion. Os nad yw hi dal yn bosib cyflwyno y parti arall yna mae modd gwneud cais i'r llys am ffyrdd eraill o gyflwyno e.e. cyflwyniad dirprwyol yn eu gweithle.
(i) Os na chytunwyd ar setliad o ran eich materion ariannol mae'n bosibl y gwnawn ni eich cynghori chi i oedi cyn cael y Dyfarniad Absoliwt gan fod modd colli hawliau pwysig iawn unwaith y bo'r Dyfarniad Absoliwt wedi'i wneud, yn enwedig o ran pensiynau.
Os mai chi yw'r Atebydd
(ii) Hefyd fe wnawn ni eich cynghori chi i lunio Ewyllys newydd ar ôl cael Dyfarniad Absoliwt, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes. Os chi yw'r unigolyn sy'n derbyn y dogfennau ysgariad, unwaith y cyhoeddir y Dyfarniad Nisi, yr adeg cyntaf y cewch chi wneud cais i'r llys am Ddyfarniad Absoliwt fydd ar ôl i chwe wythnos a diwrnod a thri mis fynd heibio. Yn ychwanegol, bydd rhaid i chi gyflwyno cais ffurfiol i'r llys sy'n golygu y bydd rhaid i chi hysbysu'r Deisebydd eich bod chi'n gofyn i'r llys am y Dyfarniad Absoliwt a gofynnir i chi fod yn bresennol mewn gwrandawiad ffurfiol.
Os ydych chi wedi derbyn Deiseb Ysgar drwy'r post eisoes a'ch bod chi'n ymwybodol bod eich priod wedi cyflwyno deiseb, chi fydd yr Atebydd yn yr achos a bydd yn ofynnol i chi lenwi'r hyn a elwir yn ffurflen 'Cydnabod Cyflwyno'r Ddeiseb'. Anfonir y ddogfen hyn i'r Atebydd gyda'r Ddeiseb Ysgar a'r Datganiad Trefniadau ar gyfer y plant, os oes gennych chi blant. Gofynnir i chi ddychwelyd y ffurflen Cydnabod Cyflwyno'r Ddeiseb' i'r llys, ac os ydych chi'n derbyn y Ddeiseb Ysgar, bydd eich priod yn gofyn i'r llys am Ddyfarniad Nisi. Nid yw'r ysgariad yn derfynol nes bo'r Dyfarniad Nisi wedi'i wneud yn Ddyfarniad Absoliwt. Gall eich priod wneud cais am Ddyfarniad Absoliwt chwe wythnos a diwrnod ar ôl cyhoeddi'r Dyfarniad Nisi. Fodd bynnag, os nad yw eich priod yn gwneud cais o fewn tri mis i'r dyddiad hwnnw, oddeutu 4 1/2 mis ar ôl Dyfarniad Nisi fe gewch chi wneud cais am Ddyfarniad Absoliwt. Trefnir cynnal gwrandawiad byr a bydd y Barnwr yn ystyried a yw'n rhesymol gwneud yr ysgariad yn derfynol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth lawrlwythwch ein taflenni gwybodaeth am ysgariad a'r dewisiadau amgen yn hytrach nag ysgariad.
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Jon Moriarty - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Rhys Williams - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Jason Mclellan - Cyfreithiwr Cyswllt
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.