Cam-drin yn y Cartref

Cam-drin yn y cartref yw unrhyw ymddygiad bygythiol, ymddygiad treisgar neu gam-drin rhwng oedolion sydd neu a fu mewn perthynas, neu rhwng aelodau teulu. Gall effeithio ar unrhyw un, beth bynnag yw eu rhyw a'u cyfeiriadedd rhywiol.

Mae deddfau i'ch hamddiffyn chi a'ch plant, ac fe allwn ni eich cynghori am y rhain. Mewn argyfwng dylech gysylltu gyda'r heddlu bob tro.

Hefyd fe allwn eich rhoi mewn cysylltiad gyda mudiadau lleol sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth i chi a'ch plant.

Dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 gall y llysoedd wneud gorchymyn a fydd yn eich gwarchod chi rhag bygythiadau a/neu drais a cham-driniaeth. Yr enw ar y gorchymyn yw Gorchymyn Rhag Molestu.

Mae modd cael gorchymyn sy'n rheoli pwy sy'n byw yn y cartref teuluol, sy'n cael gwared o'r cam-driniwr ac yn caniatáu i chi aros yn eich cartref eich hun yn ddiogel. Yr enw ar y gorchymyn hwn yw Gorchymyn Meddiannu.

Am wybodaeth ychwanegol cysylltwch a ni ar Rhad ffôn 0800 328 9631 neu:

Camdriniaeth Yn Y Cartref Cymru Gwefan.

Rhifau cysylltu: 080 8801 0800 or 080 8801 0321

Cymorth i Ferched Gwefan.

English

Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi

 

Jon Moriarty - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Rhys Williams - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Jason Mclellan - Cyfreithiwr Cyswllt

 

 

 

Offers and Events

Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.


Footer