Rydym ni'n arbenigo yn y gyfraith o ran yr Eglwys yng Nghymru. Ffurfiwyd yr Eglwys yng Nghymru yn 1920 ar ôl ei gwahanu oddi wrth Eglwys Loegr. Mae materion yr eglwys a'i chyrff cysylltiedig yn cael eu llywodraethu gan reolau manwl sy'n galw am wybodaeth gyfreithiol arbenigol.
Mae Cyfreithwyr Swayne Johnson yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â Chofrestrfa Esgobaeth Llanelwy ers mwy na 200 mlynedd. Rydyn ni a'n rhagflaenwyr wedi gweithredu fel Cofrestryddion yr Esgobaeth ers 1808. Mae'r Cofrestrydd yn gweithredu fel ysgrifennydd cyfreithiol i Esgob Llanelwy. Felly mae gennym ni wybodaeth eang a chynhwysfawr yn y maes arbenigol hwn.
Mae ein hymgynghorydd, Mr David Hooson, wedi bod yn Gofrestrydd Esgobaeth Llanelwy ers 36 o flynyddoedd, ac ef yw'r Uwch Gofrestrydd Esgobaethol yn yr Eglwys yng Nghymru. Felly, hyd yn oed os nad yw'n gwybod yr atebion, mae'n gwybod lle i chwilio amdanyn nhw!
Mae'r gwaith yma yn cynnwys cymysgedd o waith cyfreitha a di-gynnen, ynghyd â gwaitheiddo ac elusennol. Gan fod y maes hwn mor amrywiol fe'ch cynghorir i gysylltu ag un o'n cyfreithwyr i drafod eich gofynion unigol.
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Sarah Noton - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Lynette Viney-Passig - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Llyr Williams - Cyfreithiwr Cyswllt
David Hooson - Ymgynghorwyr
Michael Taylor - Ymgynghorwyr
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.