Rhyddhau Ecwiti

Mae mwy a mwy o berchnogion tai yn dechrau ystyried rhyddhau ecwiti o'u cartref. Mae nifer o resymau pam bod perchnogion tai yn meddwl am hyn - er enghraifft, i dalu am welliannau i'r cartref, helpu aelodau'r teulu brynu eu cartref eu hun ac ati. Bydd mwyafrif y darparwyr cynlluniau rhyddhau ecwiti yn mynnu bod y cleient yn penodi cynghorydd cyfreithiol o ddewis y cleient i'w gynghori am ganlyniadau cyfreithiol ymrwymo i gynllun o'r fath, ac i ymdrin â'r gwaith trawsgludo angenrheidiol. Felly mae'n hanfodol bwysig bod y cynghorydd cyfreithiol yn deall sut mae'r cynlluniau hyn yn gweithio a be ydy'r problemau potensial.

Yma yn Swayne Johnson mae gennym ni lawer o brofiad o gynghori cleientiaid am y cynlluniau hyn ac, yr un mor bwysig, gallwn ni ddarparu cyngor arbenigol am bynciau cysylltiedig fel Ewyllysiau, Atwrneiaeth a Chynllunio Ystad. Mae nifer o gynlluniau rhyddhau ecwiti yn bodoli ac mae gennym ni berthynas waith hirhoedlog â Chynghorwyr Ariannol Annibynnol sy'n medru ystyried yr holl gynlluniau sydd ar y farchnad.

English

Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi

Michael Tree - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Edward Lloyd - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Caryl Vaughan - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Llyr Williams - Cyfreithiwr Cyswllt

Jonathon Hogg - Cyfreithwyr Cynorthwyol

Natalie Downes - Cyfreithwyr Dam Hyfforddiant

 

 

 

Offers and Events

Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.


Footer