Mae gweinyddu ystâd yn medru bod yn dasg gymhleth sy'n cymryd llawer o amser, yn enwedig o ran delio â Chyllid y Wlad. Gyda'r Dreth Etifeddu yn effeithio ar ragor o bobl, mae'n bwysig delio ag ystâd yn effeithlon, heb oedi, a gwneud y mwyaf o'r holl eithriadau a rhyddhad rhag treth sydd ar gael. Dydy tasg Ysgutor ddim yn un hawdd, ond mae ein harbenigwyr ni wrth law i wneud y broses mor effeithlon a diffwdan ag y bo modd.
Mae gennym ni gyfreithwyr sy'n aelodau o'r Society of Trust and Estate Practitioners (STEP), Adran Profiant Cymdeithas y Gyfraith a Solicitors for the Elderly.
Rydyn ni'n cynnig gwasanaethau Ysgutoriaeth ac Ymddiriedolwyr. Os yw'r materion yn ymwneud ag asedau busnes neu amaethyddol mae'n hynod o bwysig cael cyngor arbenigol i leihau'r rhwymedigaethau treth ac osgoi tarfu ar y busnes.
Gall Swayne Johnson ddarparu cyngor arbenigol ynghylch unrhyw anghydfod yn ymwneud ag Ewyllysiau, Ystadau ac Ymddiriedolaethau. Gelwir y maes hwn yn waith 'Profiant ac Ymddiriedolaeth Gynhennus' ac mae'n galw am waith ar y cyd gan gyfreithwyr profiant a chyfreithwyr cyfreitha. P'un ai oes ewyllys ai peidio gall unigolion gyflwyno hawl yn erbyn ystâd perthynas agos neu unigolyn a oedd yn eu cynnal. Weithiau ceir anawsterau wrth ddehongli ewyllysiau ac ymddiriedolaethau. Ymhob achos o'r fath mae'n hanfodol bwysig cael cyngor cynted ag y bo modd, gan fod cyfnodau amser penodol ar gyfer cyflwyno unrhyw her yn y llys.
Cysylltwch â Sarah Noton neu David Scott am gymorth.
Anghydfod ynghylch Ewyllys neu Ymddiriedolaeth
Gall Cyfreithwyr Swayne Johnson ymdrin â materion anodd fel:
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Sarah Noton - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Lynette Viney-Passig - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Judy Lewis - Cyfreithiwr Cyswllt
Marc Thomas - Cyfreithwyr Cynorthwyol
Rachel Brown - Cyfreithwyr Cynorthwyol
Emma Deering - Gweithredydd Cyfreithiol
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.