DYn aml mae mwy i ysgariad neu wahanu na pherthynas dau unigolyn yn chwalu. Yn aml mae'n cynnwys unigolion yn gwneud trefniadau priodol ar gyfer y plant a'r ochr ariannol.
Mae'n hanfodol bwysig bod y trefniadau yn ymwneud â'r plant yn cadw'r amharu arnynt a'r poendod i'r isafswm. Fel arbenigwyr yn y maes hwn rydym ni'n gyfarwydd â'r gyfraith a sut i wneud iddi weithio er eich budd chi.
Bydd angen gwneud trefniadau ynghylch agweddau ariannol y tor-perthynas hefyd. Bydd hyn yn cynnwys gwneud trefniadau taliadau cynnal, perchnogaeth a meddiannaeth eiddo ac, i'r rhai sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil, rhannu unrhyw bensiynau. Fe wnawn ni eich cynghori chi am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau, gyda'r nod o uchafu unrhyw setliad.
Os ydych chi'n dioddef cael eich cam-drin gan briod neu bartner treisgar, gallwn ni eich cynorthwyo chi i gael gwaharddeb i gael gwared o'r priod neu'r partner treisgar o'r cartref.
Y cyfreithiwr teuluol gorau yw'r un sy'n medru sicrhau gwarchod eich buddiannau chi heb greu unrhyw ddioddefaint ychwanegol na chostau diangenrhaid.
Pob un o'r cyfreithwyr yn yr Adran Cyfraith Teulu yn aelodau o Resolution (Cymdeithas Cyfraith Teulu Cyfreithwyr yn flaenorol) ac yn Arbenigwyr achredig 'Resolution' yn eu meysydd dewisedig. Mae bod yn aelod o Resolution yn ymrwymo Cyfreithwyr Teulu i ddatrys anghydfod mewn modd nad yw'n wrthdrawol. Credwn y dylid ymdrin ag anghydfodau cyfraith teulu mewn modd adeiladol, gan gadw urddas unigolion ac annog cytuno ar faterion. Mae croeso i chi edrych ar wefan Resolution - www.resolution.org.uk. Mae gan bob un ohonynt brofiad sylweddol ac maent yn darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf wedi'i deilwra i anghenion ein cleientiaid ac maent wrth law i wrando arnoch chi a chynnig cyngor mewn modd ymarferol, cyfeillgar a chlir.
Mae costau cyngor cyfreithiol yn peri pryder i bob cleient, beth bynnag yw eu problem
gyfreithiol. Gallwn ni asesu a ydych chi'n gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol (arian cyhoeddus)
yn ystod eich apwyntiad neu mae croeso i chi ddefnyddio gwefan y Comisiwn Gwasanaethau
Cyfreithiol lle mae modd gweld a ydych chi'n gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol gan
ddefnyddio'r 'eligibility calculator' cliciwch yma. Os nad ydych chi'n gymwys i
dderbyn cymorth cyfreithiol rydym yn fwy na pharod i drafod y dewisiadau sydd ar gael i
chi, ac rydym yn hyderus yn gallwn deilwra ein gwasanaethau i'ch amgylchiadau ariannol penodol chi.
Nid yw gwneud y penderfyniad i ysgaru yn un hawdd, ac os oes plant o'r berthynas mae'n anoddach fyth. Efallai mai'r cyfan rydych chi'n chwilio amdano yw cyngor ynghylch beth fyddai'n digwydd petaech chi'n penderfynu bwrw ymlaen gydag ysgariad, neu efallai yr hoffech gael cymorth i wneud synnwyr o'ch sefyllfa chi. Gallwn drafod yr holl ddewisiadau posibl, ac os ydych chi'n bwrw ymlaen byddwn ni yno i helpu ac i weithio ochr yn ochr â chi i gyflawni'r hyn sydd orau i chi a'ch teulu.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth lawrlwythwch ein taflenni gwybodaeth am ysgariad a'r dewisiadau amgen yn hytrach nag ysgariad.
Os oes gennych chi blant ac mae eich perthynas chi'n chwalu, weithiau mae'n anodd cofio eich bod chi'n parhau i fod yn rhieni, beth bynnag sy'n digwydd. Rhaid gwneud trefniadau lle bydd y plant yn byw (preswylio) a sut fyddwch chi'n trefnu i'w gweld nhw (cyswllt). Fe wnawn ni eich annog a'ch cefnogi chi wrth geisio dod i benderfyniad ynghylch y plant heb ymyrraeth llys, ond os nad yw hyn yn bosibl fe wnawn ni eich cynorthwyo chi drwy'r broses llys a gwneud ein gorau glas i sicrhau'r hyn sydd orau i chi a'ch plant.
Weithiau mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwneud ag achos. Un o adrannau'r awdurdod lleol yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol, a'i swyddogaeth yw diogelu plant. Mae'n rhaid iddynt gael caniatâd gan y llysoedd os ydynt am weithredu mewn ffordd nad yw wrth eich bodd chi. Fe'u gelwir yn achosion gofal. Os yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn credu bod plenynt yn dioddef niwed difrifol neu'n debygol o ddioddef niwed difrifol, gallant wneud cais i'r llys am orchymyn gofal. Mae nifer o wahanol orchmynion y gellir eu cyflwyno gan y llys, yn cynnwys gorchymyn goruchwylio, gorchymyn preswylio, gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig a gorchymyn cyswllt.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth lawrlwythwch ein taflenni gwybodaeth ar faterion yn ymwneud â phlant.
Gall datrys y materion ariannol yn sgîl tor-perthynas fod yn un o agweddau mwyaf heriol y broses, a gall arwain at bryder ac ansicrwydd. Fe wnawn ni weithio gyda chi i ddatrys y problemau a thrafod telerau setliad ariannol. Mae'n bosibl cytuno ar sut i ymdrin â'r cartref teuluol, taliadau cynnal, pensiynau, busnesau ac asedau eraill ond os nad yw'n bosibl gwneud hynny a bo'r mater yn cael ei gyfeirio i'r llys, fe wnawn ni eich cynorthwyo chi a'ch cynrychioli chi. Fe wnawn ein gorau bob amser i ddarparu cyngor realistig wedi'i deilwra i'ch amgylchiadau penodol chi.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth lawrlwythwch ein taflenni gwybodaeth materion ariannol.
Ers Rhagfyr 2005 mae'r Ddeddf Partneriaeth Sifil yn golygu bod y gyfraith yn cydnabod perthynas rhwng parau o'r un rhyw. Rhoddwyd hawliau tebyg i barau priod iddynt, ac fe'u cydnabyddir fel partneriaid sifil. Yn anffodus bydd rhai partneriaethau sifil yn chwalu ac mae'r ddeddfwriaeth yn cwmpasu'r hawliau a'r cyfrifoldebau sydd gan bartneriaid o ran plant, arian a'u gwarchod rhag ymddygiad treisgar. Mae diddymu partneriaeth sifil yn dilyn trefn debyg i ysgariad, ac fe wnawn ni eich cynorthwyo chi drwy'r broses.
Neu dilynwch y cysylltiad isod:
Nid yw pobl sy'n cyd-fyw yn ffitio'n hawdd i'r system gyfreithiol, ond nid yw hyn yn golygu bod eich tor-perthynas chi yn llai emosiynol nac yn achosi llai o straen na phetaech chi'n briod, yn enwedig os oes gennych chi blant. Mae'n bwysig i chi ddeall nad yw'r ffaith eich bod chi'n byw gyda'ch gilydd yn rhoi hawliau cyfreithiol i chi o ran eich partner. Serch hynny, fe allwn ni eich cynghori chi am sut mae'r gyfraith yn effeithio ar eich plant chi a'ch hawliau eiddo os ydych chi'n berchen ar neu'n rhentu cartref.
Os ydych chi mewn perthynas fe allwn ni eich cynghori chi sut i warchod eich hun, eich plant a'ch cartref.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth lawrlwythwch ein taflenni gwybodaeth am faterion yn ymwneud â phlant a hawliau eiddo.
Mae cam-drin yn y cartref yn cynnwys pob math o ymddygiad lle mae'r bwriad yw eich brifo chi neu wneud i chi ofni. Gall ddigwydd i unrhyw un, dyn, dynes, hoyw, lesbiaid a heterorywiol. Mae cyfreithiau i'ch amddiffyn chi a'ch plant ac fe wnawn ni eich cynghori chi amdanynt. Fe allwn ni eich rhoi chi mewn cysylltiad gyda mudiadau lleol sydd yno i'ch helpu a'ch cefnogi chi dan amgylchiadau o'r fath.
Cysylltau i'r daflen wybodaeth am gam-drin yn y cartref, Cymorth i Fenywod, cymorth cyfreithiol.
Mae cyfraith cydweithrediadol yn ddull newydd o ymdrin â pharau sy'n gwahanu lle bo'r partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd, gyda chymorth a chyngor gan eu cynghorwyr cyfreithiol, i gyrraedd setliad teg heb orfod troi at y llysoedd. Mae'r broses yn cynnwys trafodaethau anffurfiol a chyfarfodydd ar y cyd i setlo'r holl faterion. Rydym ni'n un o nifer fechan o gwmni'au yng Ngogledd Cymru â chyfreithwyr wedi'u hyfforddi mewn cyfraith cydweithrediadol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth lawrlwythwch ein taflenni gwybodaeth am gyfraith cydweithrediadol.
Cytundebau y cytunir arnynt a'u llofnodi cyn priodas yw'r rhain. Maent yn nodi'r modd y mae'r darpar wr a gwraig yn meddu ar eu hasedau ac yn cadarnhau beth fydd yn digwydd petaent yn ysgaru. Mewn llawer o wledydd mae'r llysoedd yn cadw at yr hyn sydd yn y cytundebau cyn-briodasol hyn, ond yng Nghymru a Lloegr nid ydynt yn rhwym ar y llysoedd ac nid yw cytundeb o'r fath yn atal y llys rhag gwneud yr hyn a ystyria yn raniad teg o'r asedau priodasol. Serch hynny, gellir ystyried cynnwys cytundeb o'r fath pan fo'r llys yn ystyried yr amgylchiadau ariannol os yw pâr yn ysgaru.
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Jon Moriarty - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Rhys Williams - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Jason Mclellan - Cyfreithiwr Cyswllt
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.