Llareiddiad ategol yw'r enw a ddefnyddir i ddisgrifio'r gorchmynion y gall y llys eu gwneud i ddatrys materion ariannol rhwng y parti'on mewn achos ysgariad.
Yn aml yr elfen hon yw'r rhan fwyaf cymhleth o'r ysgariad, a gall gymryd amser a bod yn gostus. Mae'n werth cael cyngor cyfreithiol cynhwysfawr yng nghyswllt materion ariannol. Yma yn Swayne Johnson mae gennym ni dîm profiadol a all gynorthwyo i'ch arwain chi drwy'r broses hon, a all fod yn gymhleth iawn.
Os ydych chi'n Atebydd a'ch bod chi'n bwriadu priodi eto neu lunio Partneriaeth Sifil, mae'n rhaid i chi ddechrau hawliad ariannol yn y llys cyn i chi briodi eto oherwydd, wedi'r dyddiad hwnnw, ni fedrwch wneud cais am ddarpariaeth ariannol. Os ydych chi'n ysytyried ail-briodi mae'n hanfodol bwysig eich bod yn ein hysbysu ni gynted ag y bo modd.
For further information follow the link below:
Gan amlaf bydd achosion sy'n cael eu setlo drwy negodi a thrafod telerau yn gweithredu ar y sail bod y naill barti yn talu eu costau eu hunain. Nid yw hyn yn rheol absoliwt ond yn arferol mae'n synhwyrol ymdrin â'r achos ar y sail hwn.
Efallai y bydd modd i chi gael 'arian cyhoeddus' (y cyfeiriwyd ato'n flaenorol fel cymorth cyfreithiol) o ran eich costau yn yr achos. Nid yw hyn yn galluogi unrhyw barti i osgoi talu unrhyw gostau o gwbl. Mae gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yr hawl i adfer y costau gan barti a dderbyniodd arian cyhoeddus o unrhyw arian neu eiddo a gadwyd neu a adferwyd. Fe wnawn ni drafod gyda chi p'un ai ydych chi'n debygol o fod yn gymwys i dderbyn arian cyhoeddus, ac fe wnawn ni esbonio'r broses yn fanylach.
Gall cyfryngu eich cynorthwyo chi i ddod i benderfyniadau ynghylch materion yn ymwneud â phlant a materion ariannol. Os ydych chi ar incwm isel neu'n derbyn budd-daliadau, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer Ariannu Cyhoeddus (Cymorth Cyfreithiol) i dalu costau'r cyfryngu yn ogystal â chostau cyngor a chymorth cyfreithiol yn ystod y broses gyfryngu. Fe fyddwch yn cael eich hasesu yn eich cyfarfod cyntaf. Yn yr ardal hon cynhelir cyfryngu gan Wasanaeth Cyfryngu Teulu Gogledd Cymru - lleolir eu swyddfeydd yn Llandudno.
Cyfraith cydweithrediadol yw lle bo pâr priod sy'n gwahanu yn gweithio gyda'i gilydd, gyda chyngor a chymorth gan eu cynghorwyr cyfreithiol eu hunain, i gyrraedd setliad teg ac urddasol heb orfod troi at y llys. Cyfreithwyr Swayne Johnson yw un o'r ychydig gwmni'au cyfreithwyr yng Ngogledd Cymru â chyfreithwyr wedi'u hyfforddi mewn cyfraith cydweithrediadol.
For further information follow the link below:
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Jon Moriarty - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Rhys Williams - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Jason Mclellan - Cyfreithiwr Cyswllt
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.