Rydym ni'n darparu cyngor arbenigol i ffermwyr a pherchnogion tir am Ryddhad Eiddo Amaethyddol yng nghyswllt Treth Etifeddu a materion cysylltiedig.
Rydym ni wedi herio adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn llwyddiannus mewn nifer o achosion lle'r oedd anghydfod a oedd Rhyddhad Eiddo Amaethyddol yn berthnasol, gan arbed miloedd o bunnoedd i'n cleientiaid.
Rydym ni'n ymgymryd â chynllunio oes hefyd, gan ddefnyddio Ymddiriedolaethau a modelau olyniaeth busnes i leihau effaith y Dreth Etifeddu ar ffermydd ac ystadau.
Mae gan ein harbenigwyr brofiad sylweddol, yn amrywio o ymdrin â Rhyddhad Eiddo Amaethyddol ac Eiddo Busnes i faterion traws-ffiniol a materion yn ymwneud â domisil.
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Caryl Vaughan - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Edward Lloyd - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Sarah Noton - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Lynette Viney-Passig - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Llyr Williams - Cyfreithiwr Cyswllt
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.