P'un ai ydych chi'n bwriadu gwneud eich busnes presennol yn gorfforedig, neu ddechrau un newydd, gallwn ni gynorthwyo â chreu eich cwmni cyfyngedig newydd a throsglwyddo asedau i'r cwmni. Mae'n bwysig dechrau'n iawn, ac rydym ni'n gweithio â chyfrifydd ein cleient a chynghorwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod y cwmni'n cael ei sefydlu mewn modd sy'n bodloni gofynion y cleient a bod cyllid y cwmni yn cael ei ddarparu yn y modd mwyaf addas ac effeithiol o ran treth.
Yn aml dewisir bod yn gwmni bach preifat neu deuluol yn hytrach na phartneriaeth, a gall hyn fod yn ffordd fwy priodol ac effeithlon o ran treth o gynnal busnesau o'r fath. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn, fel gyda llawer o bartneriaethau, gwneud trefniadau priodol i fynd i'r afael â phroblemau potensial fel pwy sy'n rheoli, datrys anghydfod, ymddeoliad ac olyniaeth. Gellir delio â'r materion hyn mewn Cytundeb Cyfranddalwyr ar gyfer cwmni, a gall ein harbenigwyr eich arwain trwy'r materion a sicrhau llunio cytundeb addas.
Os ydych chi'n gwmni cyfyngedig ac yn bwriadu gwerthu eich busnes, mae'n hanfodol bwysig eich bod chi'n cael y cyngor cywir o'r dechrau. Gellir gweinyddu gwerthu busnes trwy i berchnogion cyfranddaliadau werthu eu cyfranddaliadau yn y cwmni neu drwy i'r cwmni ei hun werthu'r busnes. Mae'r materion ynghlwm â hyn yn gymhleth, a gall dewis y dull gwerthu priodol wneud gwahaniaeth mawr i'r canlyniad ariannol. Gwnaiff ein harbenigwyr eich arwain chi trwy'r materion cymhleth hyn a'ch cynorthwyo i wneud y dewis cywir. Mae gan ein harbenigwyr brofiad sylweddol o werthu pob mathau o fusnesau, o rai bach masnachwyr unigol i rai mawr corfforaethol cymhleth.
Os ydych chi'n bwriadu prynu busnes neu gwmni, gall ein harbenigwyr eich cynghori chi am y ffordd orau o wneud hynny, ac fe wnawn ni weithio'n agos â'ch cyfrifydd a chynghorwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod y prynu'n llwyddiannus. Hefyd gallwn gynghori ar fentrau ar y cyd a threfniadau busnes eraill, fel masnachfreintiau a thrwyddedau.
 
Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Edward Lloyd - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Caryl Vaughan - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Llyr Williams - Cyfreithiwr Cyswllt
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.