Eiddo Deallusol

P'un ai ydych chi wedi gweithio'n galed i greu brand, dyfeisio logo adnabyddus y mae pobl yn ymddiried ynddo neu'n dymuno diogelu enw busnes gwreiddiol a bachog ar fenter newydd, mae gennym ni gynghorwyr arbenigol wrth law i roi arweiniad i chi ar sut i ddiogelu, gwerthu neu ymelwa o hawliau eiddo deallusol eich busnes.

Nod Masnach
Gallwn ni eich helpu chi i gofrestru eich logo a/neu eich enw fel nod masnach, paratoi contractau i ganiatáu i eraill ddefnyddio eich nodau masnach presennol at ddibenion penodol neu gyffredinol, neu eich cynghori ynghylch gwerthu eich nod masnach gofrestredig.

Hawlfraint
Os ydy eich cyflogeion neu eich contractwyr yn creu rhaglenni cyfrifiadurol, pamffledi neu gerddoriaeth i'ch busnes chi, pwy sy'n berchen ar hawlfraint y gwaith? Gall cael cyngor arbenigol ar y dechrau arbed llawer o arian ac amser, ac fe allwn ni eich cynorthwyo chi a'ch busnes i sicrhau bod unrhyw waith sy'n cael ei gomisiynu gennych chi a'i greu ar eich cyfer chi yn eiddo i chi ac, yn bwysicaf oll, y gellir eu defnyddio heb i chi orfod talu unrhyw daliadau ychwanegol annisgwyl, nas rhagwelwyd.

Hawliau Eiddo Deallusol eraill
Rydym ni hefyd yn medru rhoi cyngor cyffredinol ynghylch patentau, hawliau dyluniad cofrestredig a hawliau dyluniad anghofrestredig.

Mae Eiddo Deallusol yn faes pwysig i unrhyw fusnes ei ystyried ac, os yw'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol, gallai gynhyrchu incwm ychwanegol. Mae gennym ni'r arbenigedd ar garreg eich drws, p'un ai ydych chi'n unigolyn, masnachwr unigol, partneriaeth, elusen neu'n gwmni corfforedig.

English

Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi

 

Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Edward Lloyd - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Caryl Vaughan - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Llyr Williams - Cyfreithiwr Cyswllt

 

 

 

Offers and Events

Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.


Footer