Wnawn ni ddim 'prynu' eich achos chi, ac fe wnawn ni ein gorau drosoch chi.
Rydyn ni'n gweithredu ar ran yr unigolyn wnaeth ddioddef y ddamwain a achosodd anaf(iadau) Corfforol. Dydyn ni ddim yn gweithredu ar ran cwmni'au yswiriant, undebau llafur nac unrhyw un arall â buddiant ariannol yn eich achos chi.
Yn wahanol i lawer o gyfreithwyr eraill sy'n ymwneud â'r 'diwylliant hawlio' honedig, dydyn ni ddim yn talu i unrhyw drydydd parti am anfon dioddefwyr anafiadau Corfforol atom ni. A dydyn ni ddim yn ymdrin â'n hachosion anafiadau Corfforol yn unfath ac unffurf ychwaith.
Mae gan aelodau ein hadran anafiadau Corfforol arbenigol ddegawdau o brofiad o sicrhau bod ein cleientiaid anafiadau Corfforol yn derbyn yr iawndal maen nhw'n ei haeddu.
Rydyn ni'n gwneud ein gorau glas hefyd i wneud yn siwr bod ein cleientiaid yn derbyn gwasanaeth proffesiynol, effeithlon a phrydlon sydd hefyd yn wasanaeth cyfeillgar sy'n dangos dealltwriaeth, yn cynnwys ymweld â chleientiaid yn eu cartref, lle bo hynny'n briodol.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gyfreithwyr anafiadau Corfforol, dydyn ni ddim yn talu i gwmni'au anfon cleientiaid atom ni. Yn hytrach rydyn ni'n dibynnu ar ein cleientiaid presennol a blaenorol yn sôn amdanom ni, a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n cydnabod ein harbenigedd a'n enw da.
Mae ein harbenigedd anafiadau Corfforol yn cwmpasu'r mathau o achosion a nodir isod:
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, llenwch ac anfonwch ein ffurflen Anafiadau Corfforol neu Gyfreitha Sifil yn ôl, os gwelwch yn dda. Neu mae croeso i chi gysylltu ag un ai David Scott neu Rhys Williams.
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
David Scott - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Rhys Williams - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.