Di-gynnen - Atwrneiaeth

Atwrneiaeth ydy dogfen sy'n rhoi awdurdod i rywun arall weithredu ar eich rhan chi. Rydyn ni'n arbenigo ym maes Atwrneiaeth a gwaith y Llys Gwarchod, ac yn cynnig gwasanaeth cynghori cynhwysfawr i gleientiaid hyn a'u teuluoedd.

Gellir trefnu Atwrneiaeth Arhosol i ymdrin â'ch eiddo a'ch materion ariannol, ac Atwrneiaeth Arhosol ar wahân i ymdrin â materion lles. Bydd y mathau hyn o Atwrneiaeth yn parhau hyd yn oed os ydych chi'n wynebu anallu meddyliol sy'n golygu na fedrwch drin a thrafod eich materion eich hun.

Serch hynny, gall Atwrneiaeth syml benodi rhywun arall i weithredu ar eich rhan, ond ni fyddai'n parhau petaech chi'n colli ei gallu meddyliol. Mae'r math hwn o Atwrneiaeth yn ddefnyddiol iawn i bobl sy'n mynd dramor, ac sy'n dymuno enwebu rhywun i ddelio â'u materion, neu i bobl busnes sy'n dymuno gwneud yn siwr bod rhywun a fyddai'n medru delio â'r busnes petai berchennog y busnes yn colli'r gallu corfforol i gynnal y busnes.

Gall Atwrneiaeth benodi un neu ragor o unigolion i weithredu ar eich rhan.

Mae croeso i chi gysylltu ag un o'n cyfreithwyr i gael rhagor o fanylion am Atwrneiaeth a Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

English

Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi

 

Sarah Noton - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Lynette Viney-Passig - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Judy Lewis - Cyfreithiwr Cyswllt

Marc Thomas - Cyfreithwyr Cynorthwyol

Rachel Brown - Cyfreithwyr Cynorthwyol

Emma Deering - Gweithredydd Cyfreithiol

 

 

 

Offers and Events

Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.


Footer