Mae mwy a mwy o bobl yn priodi neu'n ymrwymo i bartneriaeth sifil yn ddiweddarach yn eu bywyd ac yn aml mae ganddynt asedau sylweddol. Yn ychwanegol, mae llawer rhagor o bobl yn priodi am yr ail neu'r drydedd waith, ac maent am ddarparu ar gyfer plant o berthnasoedd/priodasau blaenorol yn ogystal ag ar gyfer unrhyw blant o'u perthynas newydd.
Contract ysgrifenedig yw Cytundeb Cyn-briodasol y mae'r ddau barti yn ymrwymo iddo sy'n nodi sut y rhennir yr asedau a'r ddarpariaeth ar gyfer y plant petai'r undod yn chwalu cyn bod yn gyfreitihol rhwym gan briodas neu bartneriaeth sifil. Mae'n rhaid i'r ddwy ochr fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol annibynnol ac wedi datgelu eu hamgylchiadau ariannol cyn llunio'r cytundeb a llofnodi unrhyw ddogfen.
Er nad yw Cytundebau Cyn Priodas yn orfodadwy yng Nghymru a Lloegr, mae gan y llysoedd ddisgresiwn i benderfynu os ydynt am gynnal neu ategu Cytundeb Cyn Priodas. Mewn achosion diweddar, mae rhain wedi cael eu cymeryd i ystyriaeth ac mewn rhai achosion maent wedi eu dal i fod o gryn bwys.
Nid oes y fath beth â phriodas cyfraith gwlad neu briodas cyd-fyw yn y gyfraith. Mae'n bosibl i chi fyw gyda'ch gilydd am lawer o flynyddoedd fel gwr a gwraig, heb gael unrhyw hawliau cyfreithiol ar y cartref os yw yn enw eich partner yn unig. Yn wahanol i barau priod, ni fyddwch yn cael unrhyw hawl cyfreithiol i daliadau cynnal. Mewn rhai amgylchiadau mae llysoedd Cymru a Lloegr wedi dyfarnu, os ydych chi wedi cyfrannu i'r morgais neu eich bod wedi cyfrannu'n ariannol mewn modd arall, eich bod wedi ennill hawl i gyfran o'r cartref. Hyd yn oed os nad ydych chi'n awyddus i lunio cytundeb, gall meddwl am a thrafod sut i ddelio gydag unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol gynorthwyo perthynas drwy ganiatáu i chi ystyried penderfyniadau allweddol gyda'ch gilydd. Dyma rai pethau yr hoffech eu hystyried, o bosibl:
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Jon Moriarty - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Rhys Williams - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Jason Mclellan - Cyfreithiwr Cyswllt
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.