Anafiadau Personol a Chyfreitha Sifil

Damweiniau traffig

Os ydych chi wedi dioddef anaf personol o ganlyniad i ddamwain traffig ar y ffordd nad oedd yn gyfangwbl eich bai chi, yna gallwn ni eich cynghori a oes gennych chi achos da dros hawlio iawndal.

Rydyn ni'n ymdrin â hawliadau ar ran gyrwyr, teithwyr, gyrwyr beiciau modur, beicwyr, cerddwyr a marchogwyr ceffylau.

Yn y rhan fwyaf o achosion gellir hawlio yn erbyn cwmni yswiriant y sawl a oedd yn gyfrifol am y ddamwain. Os nad oedd gan yr unigolyn hwnnw yswiriant modur dilys yna, mewn llawer o achosion, gellir hawlio yn erbyn y Biwro Yswirwyr Moduron (Motor Insurers' Bureau - MIB).

Os nad oes modd cysylltu â'r gyrrwr a oedd yn gyfrifol am y ddamwain yna, eto, gallai fod yn bosibl hawlio yn erbyn y Biwro Yswirwyr Moduron.

Hyd yn oed os oedd peth bai arnoch chi am y ddamwain, gallech hawlio iawndal. Os yw eich gwrthwynebydd yn profi eich bod chi'n rhannol ar fai yna byddai swm yr iawndal yn cael ei leihau i adlewyrchu'r esgeulustod ar eich rhan chi a gyfrannodd at y ddamwain. Yn yr un modd, os nad oeddech chi'n gwisgo gwregys diogelwch, gellid didynnu rhywfaint o arian o'r cyfanswm iawndal. Yn arferol mae'r gostyngiad tua 25% petai'r anafiadau wedi'u hosgoi yn gyfangwbl trwy wisgo gwregys diogelwch; a lleihad o 15% petai'r anafiadau wedi bod yn llawer llai difrifol petaech chi'n gwisgo gwregys diogelwch ar adeg y ddamwain.

Y gwahanol fathau o daliadau digolledu:

Yn arferol cyfeirir at yr iawndal am anafiadau personol fel "iawndal cyffredinol" neu "iawndal am boen a dioddefaint a cholli amwynder". Bydd y gyfran hon o'r iawndal yn dibynnu ar natur yr anafiadau rydych chi wedi'u dioddef, sut mae'r anafiadau wedi effeithio ar eich bywyd chi a ph'un ai y byddwch chi'n gwneud adferiad llwyr neu'n cael eich gadael ag unrhyw symptomau tymor hir.

Fe allech chi fod â'r hawl i iawndal am effaith seicolegol y ddamwain a'i chanlyniadau, yn ychwanegol at iawndal am yr anafiadau corfforol.

Mathau eraill o daliadau digolledu:

Mae'n bosibl y medrwch chi hawlio am golledion ariannol yn deillio o'r ddamwain, yn ychwanegol at yr iawndal cyffredinol. Cyfeirir at yr elfen hon fel "iawndal arbennig" a gallai gynnwys colli enillion, gwerth eitemau a ddifrodwyd yn y ddamwain, cost unrhyw driniaeth feddygol breifat a gofal a chymorth (neu werth hyn os yw'n cael ei roi'n wirfoddol, e.e. gan aelod o'r teulu neu ffrind), costau teithio ychwanegol a chost yr eitemau a brynwyd i'ch galluogi chi i ymdopi â'r anafiadau yn well.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol i'w chael yn y gwefannau isod:

APIL (Association of Personal Injury Lawyers) www.apil.org.uk
"Motor Insurers' Bureau" www.mib.org.uk

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, llenwch ac anfonwch eich ffurflen Anafiadau Personol neu Gyfreitha Sifil yn ôl atom ni, neu mae croeso i chi gysylltu â David Scott neu Rhys Williams.

English

Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi

 

David Scott - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Rhys Williams - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

 

 

 

Offers and Events

Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.


Footer