Anafiadau Corfforol a Chyfreitha Sifil

Damweiniau llithro, baglu a syrthio

Os ydych chi wedi dioddef anaf Corfforol mewn damwain yn cynnwys llithro, baglu neu syrthio, fe allwn ni eich cynghori chi a oes gennych chi achos da i hawlio digollediad, hyd yn oed os peth bai am y ddamwain arnoch chi. Gallai'r ddamwain fod wedi digwydd mewn man cyhoeddus neu ar eiddo preifat. Mae llawer o ddamweiniau o'r fath yn digwydd pan fo pobl yn eu gwaith.

Os digwyddodd y ddamwain mewn man cyhoeddus, yna gallai rhywun arall fod yn gyfrifol dan gyfraith esgeulustod a/neu niwed neu'n unol â Deddf Priffyrdd 1980.

Os digwyddodd y ddamwain ar eiddo preifat, yna gallai rhywun fod yn atebol i dalu arian digolledu i chi ar sail y gyfraith esgeulustod a/neu niwsans neu o dan Ddeddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957 neu 1984. Gallai hyn fod yn berthnasol os digwyddodd y ddamwain ar safle busnes (e.e. mewn siop neu swyddfa) neu yng nghartref rhywun arall.

Mae llawer iawn o ddamweiniau llithro, baglu a syrthio yn digwydd i bobl tra'u bod yn eu gwaith. Yn aml mae hyn o oherwydd esgeulustod y cyflogwr neu dorri un o'r llu o reolau dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Ddamweiniau yn y Gwaith a sut gall Swayne Johnson eich helpu chi, cliciwch yma

Y gwahanol fathau o ddigollediad:

Yn arferol cyfeirir at y diogelu am anafiadau Corfforol fel "iawndal cyffredinol" neu "iawndal am boen a dioddefaint a diffyg amwynder". Bydd y rhan hon o'r digolledu yn dibynnu ar natur yr anafiadau rydych chi wedi'u dioddef, y ffordd mae'r anafiadau wedi effeithio ar eich bywyd a ph'un ai y byddwch chi'n cael adferiad llwyr neu'n cael eich gadael â symptomau tymor hir.

Yn ychwanegol at dâl digolledu am yr anafiadau corfforol, fe allech chi fod â'r hawl i iawndal am effaith seicolegol y ddamwain a'i chanlyniadau.

Mathau eraill o ddigolledu:

Efallai y bydd yn bosibl i chi hawlio am golledion ariannol yn deillio o'r ddamwain, yn ogystal ag iawndal cyffredinol. Cyfeirir at y rhain fel "iawndal arbennig" a gallai gynnwys colli enillion, gwerth eitemau a ddifrodwyd yn y ddamwain, cost unrhyw driniaeth feddygol breifat a gofal a chymorth (neu werth y gofal hwnnw os yw'n cael ei ddarparu'n wirfoddol - e.e. gan aelod o'r teulu neu ffrind), costau teithio ychwanegol a chostau eitemau a brynwyd i'ch galluogi i ymdopi â'r anafiadau yn well.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar y gwefannau isod:
APIL (Association of Personal Injury Lawyers) www.apil.org.uk
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch www.hse.gov.uk

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth llenwch a dychwelyd ein ffurflen Anafiadau Corfforol neu Gyfreitha Sifil os gwelwch yn dda, neu gysylltu â David Scott neu Rhys Williams.

English

Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi

 

David Scott - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Rhys Williams - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

 

 

 

Offers and Events

Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.


Footer