Di-gynnen - Cynllunio Treth

Rydyn ni'n ymwybodol bod materion trethiant yn dod yn fwyfwy pwysig i'n cleientiaid. Mae'r gyfundrefn Hunan Asesu Treth Incwm, ynghyd â chymhlethdodau'r system Dreth Elwau Cyfalaf a Threth Etifeddu yn gwneud hwn yn faes arbenigol iawn.

Mae gennym ni gyfreithwyr sy'n aelodau o'r 'Society of Trust and Estate Practitioners' (STEP), Adran Profiant Cymdeithas y Gyfraith a 'Solicitors for the Elderly'.

Mae materion treth yn nodwedd yn y rhan fwyaf o'n gwaith cyfreithiol. Mae gennym ni arbenigwyr ym maes cynllunio ar gyfer y Dreth Etifeddu a Threth Elwau Cyfalaf a all eich cynorthwyo chi. Fe wnawn ni weithio fel tîm gyda'ch cynghorwyr proffesiynol eraill chi er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cyngor gorau.

English

Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi

 

Sarah Noton - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Lynette Viney-Passig - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Judy Lewis - Cyfreithiwr Cyswllt

Marc Thomas - Cyfreithwyr Cynorthwyol

Rachel Brown - Cyfreithwyr Cynorthwyol

Emma Deering - Gweithredydd Cyfreithiol

 

 

 

Offers and Events

Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.


Footer