Parau di-briod
Mae pobl yn aml yn cyfeirio at barau sy'n byw gyda'i gilydd fel gwr a gwraig drwy Gyfraith Gwlad.
Efallai y bydd yn peri syndod i chi nad yw parau sy'n cyd-fyw wedi meddu ar statws cyfreithiol o'r
fath ers Deddf Priodasau 1763. Os ydych chi'n cyd-fyw gyda phartner ni fydd gennych chi rai
hawliau penodol sydd gan barau priod neu bartneriaid sifil. Dyma rai ffeithiau efallai nad ydych
yn ymwybodol ohonynt.
Arian
Nid yw cynnal partner cyd-fyw yn ariannol yn ddyletswydd cyfreithiol, tra bo gan bob partner priod/sifil
ddyletswydd cyfreithiol i gynnal y llall, hyd yn oed ar ôl iddynt wahanu.
Cyfrifoldeb Rhiant
Ystyr Cyfrifoldeb Rhiant yw'r holl hawliau, dyletswyddau ac ymrwymiadau'n ymwneud â phlant.
Mae'r cyfrifoldeb rhiant gan y fam ddi-briod, onibai:
- Mae enw'r tad wedi ei gofrestru ar y dystysgrif geni (mae hyn yn berthnasol i blant a gofrestrwyd ar neu wedi 1 Rhagfyr 2003)
- Bod ganddynt gytundeb ffurfiol
- Mae'r tad wedi cael gorchymyn cyfrifoldeb rhieni neu breswylio gan y llys
Nid oes hawl awtomatig i'r tad, yn wahanol i'r hyn sy'n berthnasol i bâr priod.
Gwahanu
Gall pâr sy'n cyd-fyw wahanu yn anffurfiol heb ymyrraeth llys, tra bo'n ofynnol i bâr priod/partneriaid mewn partneriaeth sifil wneud cais i'r
llys ddiddymu'r briodas/bartneriaeth sifil yn ffurfiol. Fodd bynnag, mae gan y llys yr hawl i wneud gorchmynion yn
ymwneud â gofal y plant ymhob achos.
Eiddo
Fel arfer ni fydd gan bartner cyd-fyw tenant unrhyw hawliau i aros yn y cartref
os yw'r tenant yn gofyn iddo/iddi adael. Mewn priodas mae gan y ddau bartner yr hawl i fyw yn y
cartref priodasol, waeth yn enw pwy mae'r cytundeb tenantiaeth.
Marwolaeth
Os nad oes Ewyllys ddilys
ni fydd y partner sy'n goroesi mewn partneriaeth cyd-fyw yn etifeddu unrhyw beth,
onibai bod y pâr yn berchen ar yr eiddo ar y cyd.
Datrysiadau cyfreithiol
Os ydych chi'n cyd-fyw gyda'ch partner neu wedi bod yn cyd-fyw a bod eich perthynas wedi dod i ben yna bydd
angen datrys nifer o faterion anodd sy'n ysgogi emosiynau cryf. Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol
cynhwysfawr a synhwyrol am ystod o bethau yn cynnwys eiddo, ewyllysiau a phlant (os oes rhai).
Perchnogaeth eiddo
Nid yw'r gyfraith bresennol yng Nghymru a Lloegr yn rhoi'r un warchodaeth i barau di-briod sy'n cyd-fyw ag i
barau priod, neu'r rhai sydd wedi ymrwymo i bartneriaeth sifil. Gall llawer o faterion cymhleth godi yn dilyn
tor-perthynas, yn enwedig yng nghyswllt perchnogaeth eiddo. Mae hyn yn arwain at anghydfod yn aml, ac
yma yng nghwmni Cyfreithwyr Swayne Johnson fe wnawn ystyried eich amgylchiadau unigol chi yn ofalus
iawn a'ch cynghori ar fanteision ac anfanteision gweithredu drwy'r llysoedd.
Plant
Pan fo perthynas yn chwalu, mae'r ddau riant yn parhau'n gyfrifol am ofalu am a chynhaliaeth y plant,
p'un ai oes gan y tad gyfrifoldeb rhiant ai peidio.
Darpariaeth ariannol ar gyfer y plant
Gall y rhiant sy'n gofalu am y plentyn/plant gyflwyno cais i'r Asiantaeth Cynnal Plant am asesiad a
chasglu unrhyw arian sy'n ddyledus gan y rhiant absennol.
Mae hefyd yn bosibl gwneud cais dan Atodlen 1 Deddf Plant 1989 am ddarpariaeth ariannol ar gyfer plentyn.
Gall y llys wneud gorchymyn am lwmp swm neu orchymyn trosglwyddo eiddo, sef rhai yn unig o bwerau'r llys.
Cytundebau Cyd-fyw
Os ydych chi'n ystyried cyd-fyw gyda'ch partner, efallai y byddwch yn dymuno ymrwymo i Gytundeb
Cyd-fyw i gofnodi sut y byddai eich asedau'n cael eu rhannu petaech chi'n gwahanu. Gall Cytundeb
Cyd-fyw gofnodi pa asedau ddaeth i mewn i'r berthynas a pha gyfraniadau mae pob unigolyn yn bwriadu
ei wneud. Dylid cyfyngu Cytundebau Cyd-fyw i faterion ariannol yn unig, ac ni ddylent gynnwys manylion
am fywyd domestig.
Fe allwn ni gynnig cyngor ynghylch beth i'w gynnwys mewn Cytundeb Cyd-fyw, a'i lunio,
wedi'i deilwra i'ch amgylchiadau penodol chi.
Gellid cynnwys materion megis:
- Perchnogaeth asedau unigol
- Cyfraniadau morgais
- Talu biliau'r cartref
- Cyfrifon banc, p'un ai ar y cyd, unigol neu'r ddau
- Cyd-berchnogaeth eiddo, p'un ai'n gyd-denantiaid neu'n denantiaid cydradd
- Yswiriant bywyd ac enwebu ar gyfer buddion marwolaeth tra'n gwasanaethu
- Anrhegion ac etifeddion
- Atwrneiaeth
- Plant
- Ewyllysiau Cilyddol
English
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Jon Moriarty
- Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Rhys Williams
- Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Jason Mclellan
- Cyfreithiwr Cyswllt
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.