Wrth lunio ewyllys rydych chi'n ymdrin â'ch holl eiddo bydol. O gofio'r amser a'r ymdrech mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei roi i gaffael y pethau hyn, ymddengys yn synhwyrol i chi ddweud eich dweud sut y dylid ymdrin â nhw ar ôl eich marwolaeth.
Os nad ydych chi'n gwneud ewyllys bydd cyfraith y diewyllys yn nodi sut i ymdrin â'ch ystâd. Mae'n bosib na fydd y rheolau hyn wrth eich bodd chi na'r rhai a adawyd ar ôl. Dan y rheolau hyn ymdrinnir â phob unigolyn â'r un berthynas â chi (e.e. nithoedd a neiaint) yn union yr un fath.
Proses Feddylgar
Mae llunio ewyllys yn dasg sy'n galw am gryn ofal a meddwl, ynghyd â'r angen am arbenigedd cyfreithiwr wrth ddrafftio'r ddogfen. Mae ewyllys yn nodi eich dymuniadau o ran rhannu eich ystâd, ac mae'n medru gweithredu fel dyfais arbed treth effeithiol iawn ar yr un pryd.
Mae ystyriaethau eraill yn berthnasol i'r rhai â dibynyddion, yn enwedig plant - sef Gwarcheidwaeth. Rhaid ystyried sut y dylid defnyddio asedau i'w cynnal petaech chi'n marw. Mae'n bwysig ystyried p'un ai yw buddion marwolaeth, o gynlluniau yswiriant bywyd neu gynllun pensiwn, yn gweithredu'n effeithlon o ran trethi yn yr ystâd, ac yn bodloni dymuniadau'r teulu i'r dyfodol.
Rydyn ni'n cynnig cynlluniau amrywiol i gleientiaid lunio eu hewyllys gyda ni, o ffi benodol am ewyllys syml, i gynlluniau megis Cynllun Ewyllys am Ddim Ymchwil Canser y Deyrnas Unedig a chynigion arbennig o dro i dro. Cynigir cyfraddau arbennig i gleientiaid presennol y cwmni, o dro i dro. Holwch am ragor o fanylion.
Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi
 
Sarah Noton - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Lynette Viney-Passig - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr
Judy Lewis - Cyfreithiwr Cyswllt
Marc Thomas - Cyfreithwyr Cynorthwyol
Rachel Brown - Cyfreithwyr Cynorthwyol
Emma Deering - Gweithredydd Cyfreithiol
 
 
 
Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid
yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth
a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.