Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau ac Ystadau

Rydyn ni'n credu mewn rhoi gwasanaeth personol wrth ymdrin â busnes olyniaeth, y gyfraith yng nghyswllt pobl hyn a gwaith treth. Ein nod ydy sicrhau bod ein cleientiaid yn teimlo'n gyffyrddus yn trafod y materion sensitif hyn efo ni a'n bod ni'n trin materion ein cleientiaid mewn modd gofalgar, ymarferol a chost effeithiol.

P'un ai ydych chi'n cynllunio ar gyfer y dyfodol trwy wneud ewyllys neu sefydlu Ymddiriedolaeth, neu'n delio â marwolaeth rhywun annwyl i chi, fe gewch chi wasanaeth o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar ofalu am y cleient. Rydyn ni'n hapus iawn i dreulio oddeutu hanner awr gyda chi am ddim mewn cyfarfod dechreuol i drafod eich pryderon, ac fe wnawn ni roi amcan bris o'r costau cyfreithiol i chi, a chynnig cynlluniau talu hyblyg megis ffioedd penodol neu gyfraddau uchafswm.

Rydyn ni'n ymfalchi'o fod gennym ni un o'r timau cyfreithwyr a gweithredwyr cyfreithiol arbenigol mwyaf yng ngogledd Cymru yn y maes hwn. Mae aelodau o'r tîm wedi ennill cymhwyster STEP (Society of Trust and Estate Practitioners), yn aelodau o Solicitors for the Elderly, yn aelodau o Adran Profiant Cymdeithas y Gyfraith ac yn aelodau o'r Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol a'r Gymdeithas Cyfraith Elusennau.

Cliciwch ar y cyswllt perthnasol yn yr adran i gael rhagor o wybodaeth a gweld y tîm.

English

Mae ein harbenigwyr cyfreithiol profiadol a chymwys yma i'ch cynorthwyo chi

 

Sarah Noton - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Richard Chamberlain - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Lynette Viney-Passig - Cyfreithiwr & Chyfarwyddwr

Judy Lewis - Cyfreithiwr Cyswllt

Marc Thomas - Cyfreithwyr Cynorthwyol

Rachel Brown - Cyfreithwyr Cynorthwyol

Emma Deering - Gweithredydd Cyfreithiol

 

 

 

Offers and Events

Ymwadiad: Nodwch nad yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol proffesiynol. Nid yw Swayne Johnson Ltd yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw golled bynnag sydd yn codi o ganlyniad i ddibyniaeth ar y wybodaeth a gynhwysir yma. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag un o'n cyfreithwyr arbenigol am gyngor ar eich sefyllfa benodol chi.


Footer