swayne johnson logo

Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau ac Ystadau


Rydym yn credu mewn cymryd agwedd hollol bersonol wrth ymdrin â’r busnes o olyniaeth, cyfraith y Cleient oedrannus a gwaith treth. Ein nod yw sicrhau bod ein Cleientiaid yn gyfforddus yn ymdrin â’r materion sensitif yma gyda ni a’n bod yn ymdrin â materion y Cleient mewn ffordd ofalgar sydd eto’n ymarferol ac yn gost effeithiol.

P’un a ydych yn cynllunio ar gyfer y dyfodol drwy wneud Ewyllys neu sefydlu Ymddiriedolaeth, neu’n ymdrin â marwolaeth anwylyn, byddwch yn derbyn gwasanaeth o safon uchel yn gyson gennym, gyda’r pwyslais ar ofal y Cleient.

Rydym yn hapus i dreulio oddeutu hanner awr gyda chi’n cael cyfarfod cychwynnol rhad am ddim i drafod eich pryderon a byddwn bob amser yn rhoi amcangyfrif i chi o’r costau cyfreithiol perthnasol, gan gynnig cynlluniau hyblyg megis ffioedd sefydlog a chapio cyfraddau.

Rydym yn falch iawn bod gennym un o’r timau arbenigol mwyaf yng Ngogledd Cymru o Gyfreithwyr a Swyddogion Cyfreithiol yn y maes yma o’r Gyfraith. Mae gennym aelodau o’r tîm sy’n gymwysedig i STEP (Cymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau), sy’n aelodau o SFE (Cyfreithwyr i’r Henoed), yn aelodau o adran Brofiant Cymdeithas y Gyfraith, ac yn aelodau o Gymdeithas y Gyfraith Amaethyddol a Chymdeithas Cyfraith Elusennau.

Ewyllysiau 

Proses i feddwl yn ddwys amdani…. mae llunio Ewyllys yn dasg sy’n gofyn llawer o ofal ac ystyriaeth, ynghyd â’r angen am arbenigedd cyfreithiwr i’w drafftio. Nid yn unig y mae Ewyllys yn nodi eich dymuniadau am yr hyn sy’n digwydd i’ch ystâd, gall hefyd fod yn ffordd effeithiol iawn o leihau trethi ar yr un pryd.

Yn yr oes fodern hon o faterion ariannol cymhleth, teuluoedd estynedig a chynnydd mewn cyfreitha, mae hi’n bwysicach nag y bu hi erioed o’r blaen i wneud ewyllys.

Mae rhai pobl yn ofni gwneud Ewyllys fel petai’r weithred ei hun yn temtio ffawd. Ond y rheswm mwyaf cyffredin nad oes Ewyllys gan bobl yw nad ydynt wedi cymryd y cam eto i lunio un.

Dyma ein deg awgrym gorau ynglŷn â gwneud Ewyllys:-

  1. Nid yw’r ffaith eich bod wedi gwneud apwyntiad i weld eich cyfreithiwr yn golygu eich bod ar fin marw!
  2. Mae Ewyllys yn gadael i chi adael cyfarwyddiadau clir ynghylch y ffordd y mae eich ystâd i gael ei rannu. Heb ewyllys mae eich ystâd yn atebol i’r “Rheolau Marwolaeth heb Ewyllys” ac efallai na fydd yn mynd i’r bobl y byddech wedi eu dewis;
  3. Mae Ewyllys yn gadael i chi ddewis eich Ysgutorion eich hun;
  4. Mae Ewyllys yn gadael i chi benodi gwarcheidwaid i edrych ar ôl eich plant os ydynt yn iau nag 18. Gallwch hefyd wneud trefniadau ariannol er budd eich plant;
  5. Os ydych wedi ail briodi, gall Ewyllys ddarparu ar gyfer eich gŵr neu wraig a sicrhau bod unrhyw blant o’ch priodas gyntaf yn cael rhan o’ch ystâd;
  6. Gall Ewyllysiau arbed treth a diogelu asedau rhag costau posibl gofal tymor hir;
  7. Mae Ewyllysiau’n gallu creu ymddiriedolaethau i ddiogelu buddiolwyr (e.e. buddiolwyr anabl neu fregus) ac asedau (e.e. ffermydd a busnesau teulu);
  8. Rydym yn codi ffi sefydlog am Ewyllysiau ac nid ar gyfradd bob yr awr. Byddwn hefyd yn storio eich Ewyllysiau a’ch gweithredoedd yn rhad ac am ddim. Rydym yn cynnig gwasanaeth cofrestru Ewyllysiau am ddim ac ymweliadau â’r cartref neu â’r gwaith am ddim.
  9. Rydym yn gyfreithwyr cymwysedig ac nid yn Ysgrifenwyr Ewyllysiau. Nid yw Ysgrifenwyr Ewyllysiau’n cael eu rheoleiddio ac nid ydynt yn rhoi modd i’w cleientiaid sicrhau iawndal neu gywiriad os bydd pethau’n mynd o chwith. Rydym yn sicrhau bod eich materion mewn dwylo diogel.
  10. Rhowch eich Ewyllys, wedi’i llofnodi, mewn drôr a chanolbwyntiwch ar fyw!

Profiant a Gweinyddiad eich Ystâd

Mae colli anwylyn yn hynod o anodd a thrist. Mae ein cynghorwyr sy’n broffesiynol ac eto’n llawn cydymdeimlad wrth law i roi’r gefnogaeth i chi yr ydych ei hangen.

Mae gweinyddu ystâd yn gallu cymryd llawer o amser ac mae’n broses gymhleth, yn enwedig lle mae Treth Etifeddiaeth i’w hystyried.

Am fod Treth Etifeddiaeth yn effeithio ar nifer gynyddol o bobl, mae’n hanfodol bod ystâd yn cael ei drin yn gyflym ac effeithiol ac yn manteisio i’r eithaf ar yr holl ryddhad ac eithriadau treth sydd ar gael.

Os oes asedau busnes neu amaethyddol i’w hystyried, mae’n hynod o bwysig ceisio cyngor arbenigol er mwyn cadw’r rhwymedigaethau treth a’r amhariad ar y busnes mor isel ag sy’n bosibl.

Mae gweinyddiad pob ystâd yn wahanol a bydd ein tîm arbenigol o gynghorwyr yn gallu rhoi gwasanaeth i chi sydd wedi’i deilwra i’r amgylchiadau ac i’ch gofynion.

Atwrneiaeth 

Yn gyffredinol, mae pob un ohonom yn gwybod mor bwysig yw cael Ewyllys ond a ydym ni’n gwybod hefyd pa mor bwysig yw cael Atwrneiaeth?

Mae Atwrneiaeth yn ddogfen sy’n rhoi’r awdurdod i rywun arall weithredu ar eich rhan. Rydym yn arbenigwyr yn y maes yma.

Gellir gwneud Atwrneiaeth Arhosol i ddelio gyda’ch eiddo a’ch materion a gellir gwneud Atwrneiaeth Arhosol ar wahân i ymdrin â’ch iechyd a’ch lles. Bydd y mathau yma o Atwrneiaeth Arhosol yn parhau hyd yn oed os byddwch yn dod yn feddyliol analluog i reoli eich materion eich hun.

Mae’n bwysig bod gan bawb Atwrneiaeth.

Gallwn hefyd baratoi Atwrneiaeth i bobl busnes sydd eisiau sicrhau bod rhywun ar gael a allai ymdrin â’r busnes os nad ydyn nhw’n gallu gwneud hynny.

Ymddiriedolaethau

Mae ymddiriedolaethau’n gallu bod yn gymhleth ond yn hynod fuddiol.

Mae gennym nifer o gynghorwyr Ymddiriedolaethau arbenigol sy’n gallu cynghori ar bob math o Ymddiriedolaethau, yn cynnwys creu, gweinyddu a diddymu Ymddiriedolaethau. Mae’r maes yma o’r gyfraith yn mynd yn gynyddol gymhleth ond mae Ymddiriedolaethau’n parhau i fod yn ddull cynllunio ystadau defnyddiol iawn i’r rheiny sydd eisiau amddiffyn eu hasedau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol neu wneud gwaith cynllunio treth.

Mae’n hanfodol bwysig bod Ymddiriedolaethau’n cael eu rheoli’n gywir felly dylid ceisio cyngor arbenigol ar y cyfle cynharaf bosib.

Os ydych yn gobeithio sefydlu Ymddiriedolaeth, neu os ydych yn Ymddiriedolai, neu’n Fuddiolwr Ymddiriedolaeth, cysylltwch â’n cynghorwyr arbenigol i gael arweiniad.

Olyniaeth Busnes

Byddwn yn gofalu am eich busnes lawn cymaint ag yr ydych chi.

Gwyddom fod perchnogion busnesau’n treulio oes yn aml iawn yn adeiladu ac yn tyfu eu busnesau llwyddiannus. Mae’r cam cyntaf tuag at olyniaeth busnes yn un mawr a gallwn ninnau eich cefnogi.

Rydym yn gweithredu ar ran nifer o berchnogion busnes mewn cysylltiad â’u cynlluniau olyniaeth. O gwmnïau cymhleth eu strwythur i fusnesau teulu bychain, eiddo amaethyddol neu fusnesau masnachu, gallwn roi atebion i chi i’r sefyllfaoedd teuluol a’r materion olyniaeth mwyaf cymhleth.

Yn aml iawn mae pobl yn gohirio’r gwaith o gynllunio olyniaeth busnes nes ei bod hi’n rhy hwyr ond gallwn ninnau helpu pob perchennog busnes i gymryd y cam nesaf tuag at basio eu busnes llwyddiannus ymlaen i’r genhedlaeth nesaf.

Cynllunio Treth

Gall treth eich trethu – gadewch i ni eich helpu.

Mae’n hanfodol eich bod yn talu’r maint cywir o dreth – ni chawn dalu rhy ychydig a dydyn ni ddim eisiau talu gormod!

Gall eich cynghorwyr arbenigol ganfod cyfleoedd hefyd i gynllunio treth a lleihau treth. Mae’r rhain yn ystyriaethau allweddol mewn llawer o agweddau o’n gwaith gyda chleientiaid preifat.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cleientiaid a’u cynghorwyr proffesiynol eraill e.e. cyfrifyddion a chynghorwyr ariannol i sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor gorau am yr holl agweddau perthnasol.

Anghydfodau am Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau, Profiant ac Etifeddiaeth

Gall ein tîm o gyfreithwyr arbenigol eich helpu gydag amrywiaeth eang o anghydfodau yn ymwneud ag ewyllysiau, marwolaeth heb ewyllys, ymddiriedolaethau, profiant a hawliadau o dan y Ddeddf Etifeddiaeth (Darparu ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975.

Mae nifer yr anghydfodau o’r fath wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar am amrywiaeth o resymau.

Mae ein tîm arbenigol o gyfreithwyr sy’n delio gydag anghydfodau o’r fath yn cael eu cynorthwyo a’u hategu gan dîm mawr iawn o gyfreithwyr Swayne Johnson yn y tîm Cleientiaid Preifat annadleuol sy’n delio gydag ewyllysiau, ymddiriedolaethau, profiant, marwolaeth heb ewyllys, y Llys Gwarchod, dirprwyaethau ac Atwrneiaeth Arhosol.

Dyma rai o’r mathau o achosion y mae ein cyfreithwyr cyfreitha’n ymdrin â nhw:

  • Ewyllysiau sy’n cael eu Herio – e.e. ar sail diffyg gweithrediad cywir, analluedd neu ddylanwad gormodol.
  • Cam-drin oedolion bregus yn ariannol.
  • Hawliadau ar sail Deddf Etifeddiaeth (Darpariaeth i Deuluoedd a Dibynyddion) 1975 – e.e. gan bartneriaid priod siomedig, partneriaid sifil, pobl sy’n cyd-fyw, plant neu ddibynyddion eraill.
  • Anghydfodau’n ymwneud â dehongli ewyllysiau ac ymddiriedolaethau’n anghywir.
  • Esgeulustod neu fethiannau eraill i ymdrin yn gywir â gweinyddu ystadau neu ymddiriedolaethau.

 

Dewiswch un o’n Cyfreithwyr cymwysedig i’ch helpu gyda’ch mater cyfreithiol