swayne johnson logo

Caryl Vaughan


Caryl Vaughan
  • Teitl Swydd: Cyfarwyddwr a Chyfreithiwr
  • Tîm: Pennaeth Amaeth
  • Cymhwyster: LL.B. (Anrh), Cymrawd Cymdeithas y Gyfraith Amaethyddol
  • Dyddiad y Cymhwyster: 2005

Meysydd Arbenigedd

Pennaeth Amaeth

Mae ganddi wybodaeth eang am Gyfraith Amaethyddol Cymru ac mae hi’n arbenigo yn y meysydd a ganlyn:

  • Eiddo Amaethyddol
  • Strwythur Busnesau Fferm
  • Cynllunio Olyniaeth ar Ffermydd
  • Prynu a Gwerthu Preswyl
  • Tenantiaethau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 a Hawliadau Olyniaeth
  • Tenantiaethau Busnesau Fferm ar ôl 1995; Cytundebau Tacio a Thrwyddedau Pori.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Mae Caryl yn cymryd agwedd gyfannol tuag at Gynllunio Olyniaeth Ffermydd ac mae hi’n helpu cleientiaid i ganfod pa effaith y byddai gwneud newidiadau penodol yn ei chael ar ddyfodol y fferm a’u canlyniadau posibl ar drethiant. Mae hi’n gweithio’n rheolaidd gyda phobl broffesiynol eraill i gyflawni cynllun fydd yn gweithio i’r teulu ac i’r busnes hwnnw.

Cyfrifoldebau a rolau eraill

Dyfarnwyd gwobr Syr William Mars Jones iddi yn 2001
Yn 2009, fe’i gwnaed hi’n Gymrawd Cymdeithas y Gyfraith Amaethyddol (FALA), sef y cymhwyster arbenigol lefel uchaf y gall y sefydliad ei roi.

Amdanoch chi 

Mae Caryl yn cael ei gwahodd yn rheolaidd i fod yn siaradwr gwadd am faterion cyfreithiol sy’n effeithio ar y Diwydiant Amaethyddol ac mae hi wedi ymddangos ar deledu Cymraeg yn trafod Cynllunio Olyniaeth Fferm.

Yn siarad Cymraeg?

Ydy

Cysylltu â Caryl:
Ffôn: 01824 730560
Ebost: carylv@swaynejohnson.com

ALA Logo