swayne johnson logo

Lynette Viney-Passig


Director and Solicitor for Swayne Johnson
  • Teitl Swydd: Cyfarwyddwr a Chyfreithiwr
  • Tîm: Pennaeth Cleient Preifat
  • Cymhwyster: LL.B. (Anrh)
  • Dyddiad y Cymhwyster: 2006

Meysydd arbenigedd

Pennaeth Cleientiaid Preifat

Mae Lynette a’i thîm arbenigol yn cynghori ac yn arwain cleientiaid ar bob agwedd o waith cleientiaid preifat yn cynnwys Ewyllysiau, Atwrneiaethau, Llys Gwarchod, Treth Etifeddiaeth, Ymddiriedolaethau, Cynllunio Ffioedd Cartrefi Gofal, Diogelu Asedau, Gweinyddu Ystadau (profiant), Cynllunio Olyniaeth Busnes ac Ystadau i unigolion a chleientiaid Busnes.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Mae Lynette yn rheoli ein hadran Cleientiaid Preifat o 16 o enillwyr ffioedd yn ogystal â staff cymorth gan olygu mai dyma’r fwyaf yng Ngogledd Cymru.

Mae gan Lynette enw rhagorol yn lleol a thu hwnt am ddarparu cyngor arbenigol mewn ffordd glir, gyfeillgar a phroffesiynol. Mae hi’n adeiladu perthnasau gwaith cryf a phroffesiynol gyda’i chleientiaid a’u teuluoedd.

Cyfrifoldebau a rolau eraill

Mae Lynette yn Ymddiriedolwr i Wasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych (CADMHAS), yn Drysorydd Cyfreithwyr i’r Henoed (SFE) – Cangen Gogledd Cymru ac yn aelod o Gymdeithas Perchnogion Tir y Wlad.

Amdanoch chi 

Mae Lynette wrth ei bodd yn cael amser gyda’r teulu – “Fi yw’r hynaf o bedwar felly rwy’n dod o deulu gweddol fawr. Rwyf wrth fy modd pan fyddwn oll yn dod at ein gilydd – mae’n anhrefn llwyr, yn swnllyd ac rydym oll braidd yn afreolus ond mae’n gymaint o hwyl!”

Yn 2017, cyfeiriodd Legal 500 at Lynette fel a ganlyn. “Mae’r ‘gefnogol a phroffesiynol’ Lynette Viney-Passig yn rheoli adran cleientiaid preifat y cwmni ac yn darparu ‘cyngor prydlon a chlir iawn’, gyda ffocws arbennig ar gynllunio olyniaeth ac ystadau i gleientiaid busnes a ffermio.”

 

 

Cysylltu â Lynette:
Ffôn: 01745 818 257
E-bost: lynettev@swaynejohnson.com