swayne johnson logo

Rheoli Cyfoeth


Mae cleientiaid Cyfreithwyr Swayne Johnson yn aml yn gofyn i ni eu cyflwyno i gynghorwyr ariannol.

Mae canfod y cynghorwr ariannol sy’n gywir i chi mor anodd â chanfod y cyfreithiwr cywir, neu unrhyw gynghorydd proffesiynol arall.

Pan fydd ein cleientiaid yn gofyn i ni am argymhelliad, mae gennym gyfrifoldeb i’w cyflwyno i’r bobl orau un.

Yn 2016, aeth Cyfarwyddwyr Cwmni Cyfyngedig Cyfreithwyr Swayne Johnson ati i sefydlu Swayne Johnson Wealth Management Limited.

Mae gan Swayne Johnson Wealth Management Limited banel o gynghorwyr ariannol yr ydym wedi archwilio eu cefndir a chreu perthynas waith gadarn gyda nhw dros flynyddoedd lawer. Rydym yn hyderus bod gan y cynghorwyr ariannol ar ein panel nid yn unig y lefel uchel o arbenigedd sy’n ofynnol ond hefyd yr un safonau o ofal rhagorol i’r cleient â Chyfreithwyr Swayne Johnson. Gwyddom y bydd y cynghorwyr ariannol ar ein panel yn gofalu amdanoch lawn cystal ag yr ydym ni.

Gall y cynghorwyr ariannol ar ein panel eich helpu gyda:-

  • Pensiynau a diogelu eich ymddeoliad

    Cynllunio ar gyfer YMDDEOLIAD cyfforddus – ydych chi wedi eich drysu gan y rheolau pensiwn newydd? Oes gennych chi gwestiynau neu bryderon am eich darpariaeth pensiwn? Mynnwch gyngor arbenigol gan ein panel

  • Rheoli eich buddsoddiadau

    Gall ein panel o arbenigwyr eich helpu i gyflawni eich targedau buddsoddi. Mae eich cyfoeth yr un mor bwysig iddyn nhw ag ydyw i chi.

  • Cynllunio eich treth

    Allech chi fod yn talu gormod? Gallwn lunio atebion yn y ffordd fwyaf effeithiol o ran treth

  • Diogelu eich TEULU a’ch dull o fyw – gall ein panel eich helpu i edrych ar ôl y bobl yr ydych yn eu caru drwy gael diogelwch incwm, yswiriant bywyd, diogelwch morgais, cynllunio gofal iechyd a gofal tymor hir

    Diogelu eich BUSNES – p’un a ydych yn unig fasnachwr, partner neu gyfranddaliwr, rydych yn allweddol i ddiogelwch a llwyddiant eich busnes. Beth fyddai’n digwydd i’ch busnes petai rhywbeth yn digwydd i chi? Gall ein panel o gynghorwyr eich helpu drwy gytundebau croesi opsiynau a diogelu pobl allweddol.

Os nad ydych wedi cwrdd â chynghorwr ariannol erioed o’r blaen, neu heb wneud hynny yn y 12 mis diwethaf, yna mae’n debyg eich bod wir angen gwneud hynny. Rydym yn addo rhoi cyngor proffesiynol, arbenigol a chyfeillgar i chi. I drefnu cyfarfod gyda chynghorwr ariannol yn rhad ac am ddim ac heb unrhyw oblygiadau, ffoniwch ni ar 01745 818258 neu ebostiwch planning@sjwealthmanagement.com