swayne johnson logo

Ymddiriedolaeth Elusennol


Mae Cyfreithwyr Swayne Johnson wedi bod yn cefnogi mentrau elusennol a phrosiectau cymunedol ers dros ganrif ac mae’r gefnogaeth yma wedi helpu i gynnal mudiad yr hosbis, gwaith ieuenctid, lles plant, yr henoed a llawer o brosiectau lleol eraill.

Rydym nawr wedi creu Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson fel cyfrwng i roi cefnogaeth i’r elusennau lleol a phrosiectau llawr gwlad yma.

Er mwyn sefydlu’r gronfa, rhoddodd Cyfarwyddwyr a Chyfranddalwyr Cyfreithwyr Swayne Johnson gyfran o’u helw i’r Ymddiriedolaeth Elusennol. Bydd Cyfarwyddwyr a staff Cyfreithwyr Swayne Johnson yn parhau i godi arian tuag at y coffrau fel rhan o’u hymrwymiad i gefnogi prosiectau ac elusennau lleol wrth eu gwaith.

Mae cefnogi ein cymunedau lleol yn un o egwyddorion sylfaenol Cyfreithwyr Swayne Johnson ac yn rhan annatod o’n gwerthoedd craidd.

Mi fydd busnes Cyfreithwyr Swayne Johnson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson yn cael eu cadw’n gwbl ar wahân a gallwn eich sicrhau y bydd 100% o elw dosbarthedig yr Ymddiriedolaeth ar gael ar gyfer Grantiau. Bydd Cyfreithwyr Swayne Johnson yn darparu gwasanaeth cyfreithiol ac yn rhoi o’u hamser i gefnogi bodolaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol ar sail pro bono.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am yr holl weithgareddau elusennol trwy ymweld â gwefan y Comisiwn Elusennau neu drwy e-bostio elusen@swaynejohnson.com.

  • Sut i Wneud Cais

    Ewch i’n gwefan www.swaynejohnson.com/charitabletrust. Cwblhewch a chyflwynwch y cais ar-lein neu lawrlwythwch gopi a’i anfon at elusen@swaynejohnson.com neu trwy’r post i Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson, 2 Hall Square, Dinbych, LL16 3PA.

      Sefydliad/Prosiect/Unigolyn/Enw

      Cyfeiriad Yn Cynnwys Côd Post

      Ebost

      Ffôn

      Enw'r Prosiect

      Swm Yr Ymgeisir Amdano

      Dywedwch wrthym am eich prosiect ogydd

      Pwy fydd yn elwa o'r prosiect?

      Pa ardal fydd yn elwa o'r prosiect. Ble ydych chi wedi'ch lleoli a lle bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio?

      Ydi'r prosiect yn gysyllteidif ag ysgol, clwb ieuenctid, beu sefydliad arall? Os felly, rhowch fanylion

      Rhowch dadansoddiad llawn o gostau eich prosiect

      I bwy dylid gwneud y siec yn daladwy os ydych yn llwyddiannus?

      Os yn berthanasol - sawl oedolyn fydd yn gweithio â phobl dan 18 oed neu oedolion bregus ar eich prosiect?

      A ydynt wedi eu gwirio drwy DBS?

      YdynNac Ydyn

      Rhowch dic i gadarnhau fod gennych ganiatád rhiant/gwarchodwr/unigolyn i dynnu lluniau a'u ddefnyddio at ddiben cyhoeddusrwydd y prosiect ogydd

      OesNa

      Rhowch dic i gadarnhau eich bod yn cydsynio iymweliad/trafodaeth ddilynol ac y byddwch yn darparu adborth ar y prosiect ogydd

      ByddwnNa Fyddwn

      Oes unrhyw wybodaeth ychwanegol yr hoffwch ei ddarparu? Os oes, ychwanegwch yma neu atodwch i'r ffurflen gais

    • Beth Sy’n Digwydd Nesaf

      Bydd y Panel Grantiau yn cyfarfod bob chwarter. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 25ain o Fai, Awst, Tachwedd a Chwefror. Cydnabyddir eich cais ac, os bydd yn llwyddiannus, fe’ch hysbysir trwy’r post neu e-bost.