swayne johnson logo

Cyfraith Cyflogaeth


Cyfraith Cyflogaeth

Mae’r gyfraith am faterion cyflogaeth wedi dod yn fater mwy cymhleth nag erioed dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n hollol hanfodol eich bod yn cael yr wybodaeth gywir ar yr amser cywir mewn sefyllfa sy’n gallu edrych yn hollol amhosibl weithiau. Gallwn eich helpu drwy roi cyngor arbenigol i chi a chymorth ymarferol gyda phob agwedd o gyfraith cyflogaeth, o lunio contractau cyflogaeth, llawlyfrau i’r staff a pholisïau diswyddiad, i roi cyngor i chi ar bob math o anghydfodau yn y gwaith a’ch helpu drwy’r prosesau cwynion a disgyblu.