swayne johnson logo

Eiddo Deallusol


Efallai eich bod wedi gweithio’n galed i adeiladu brand neu ddyfeisio logo y gall pobl ei adnabod ac ymddiried ynddo, neu efallai eich bod eisiau diogelu enw busnes arbennig o effeithiol ar gyfer menter newydd? Beth bynnag yw’r sefyllfa, mae gennym gynghorwyr arbenigol wrth law i roi arweiniad i chi ar sut i ddiogelu neu werthu hawliau eiddo deallusol eich busnes, neu eu defnyddio mewn rhyw ffordd arall.

Nodau Masnach

Gallwn eich helpu i gofrestru eich logo a/neu eich enw fel nod masnach, paratoi contractau i adael i bobl eraill ddefnyddio eich nodau masnach presennol i bwrpasau penodol neu gyffredinol neu roi cyngor i chi am werthu eich nod masnach cofrestredig.

Hawlfraint

Os yw eich gweithwyr cyflogedig neu gontractwyr yn creu rhaglenni cyfrifiadurol, pamffledi neu gerddoriaeth i’ch busnes, pwy sy’n berchen ar y gwaith yma? Mae cael cyngor arbenigol o’r cychwyn cyntaf yn gallu arbed llawer o amser ac arian i chi, a gallwn eich helpu chi a’ch busnes i sicrhau bod unrhyw waith sy’n cael ei greu i chi a’i gomisiynu gennych yn eiddo i chi ac, yn bwysicach na hynny, y gallwch ei ddefnyddio heb orfod talu costau ychwanegol annisgwyl.

Hawliau Eiddo Deallusol Eraill 

Gallwn hefyd roi cyngor cyffredinol i chi am batentau, hawliau dyluniad cofrestredig a hawliau dyluniad heb eu cofrestru. Mae Eiddo Deallusol yn faes pwysig i unrhyw fusnes ei ystyried ac, o’i ddefnyddio’n effeithiol, gallai hefyd gynhyrchu incwm ychwanegol. Gallwn gynnig yr arbenigedd yma i chi ar stepen eich drws p’un a ydych yn unigolyn, yn fasnachwr unig, yn bartneriaeth, yn elusen neu’n gwmni corfforaethol.

Mae ein cyfreithwyr arbenigol yn ymdrin ag anghydfodau masnachol, cyflogaeth ac eiddo deallusol. Mae ganddom brofiad sylweddol o ymdrin ag achosion o’r fath, i fusnesau/cyflogwyr ac i weithwyr cyflogedig/unigolion.

Mae gwaith ein cyfreithwyr masnachol yn cynnwys ag yn ymdrin â gwrthdaro ac anghydfodau sy’n wynebu sefydliadau neu eu gweithwyr cyflogedig. Yn aml iawn mae hyn yn gofyn mynd ati i gyfreitha’n gryf, ond mae hefyd yn gofyn canfod atebion ymarferol a masnachol, a hynny mewn sefyllfaoedd hynod gynhennus fwy na heb.

Mae ganddom brofiad sylweddol hefyd o faterion eiddo deallusol, yn rhai cynhennus ac anghynhennus, sy’n cynnwys cofrestru nodau masnach a datrys anghydfodau er mwyn sicrhau bod hawliau eiddo deallusol priodol yn cael eu hawlio, eu diogelu a’u defnyddio er budd mwyaf y cleient.

Ymysg yr amrywiaeth mawr o faterion y gallwn gynnig ein arbenigedd ynddynt y mae:

  • Anghydfodau am gontractau masnachol.
  • Anghydfodau am gontractau cyflogaeth a Chytundebau Setlo.
  • Anghydfodau am gontractau Contractwr/Hunangyflogaeth.
  • Anghydfodau am nodau masnach/hawliau eiddo deallusol.
  • Anghydfodau rheoliadol.

Dewiswch un o’n Cyfreithwyr cymwysedig i’ch helpu gyda’ch mater cyfreithiol