swayne johnson logo

Elusennau a Chyfraith Eglwysig


Elusennau

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gweithio i, ac ar ran, nifer fawr o elusennau.

Mae gan lawer o’n Cyfarwyddwyr a Chyfreithwyr safleoedd mewn elusennau lleol ac rydym yn gweithredu ar ran nifer fawr o fudiadau elusennol.

Gall ein Cyfreithwyr arbenigol, profiadol roi cyngor i chi am:

Ffurfio

P’un a ydych yn ystyried sefydlu cwmni elusennol, cwmni buddiannau cymunedol, cymdeithas anghorfforedig, ymddiriedolaeth elusennol neu sefydliad gwirfoddol, gallwn roi cyngor i chi am y strwythur mwyaf addas ac am ddrafftio’r ddogfennaeth ofynnol.

Cofrestru

Gallwn wneud y cais am gofrestriad gyda’r Comisiwn Elusennau.

Gweinyddiaeth

Rydym yn deall y pwysau sydd ar bobl sy’n rhedeg elusen o ddydd i ddydd. Rydym wrth law i gefnogi a rhoi cyngor am bob agwedd o weithdrefn a chydymffurfiad mewn meysydd megis cyflogaeth a rheoli risgiau.

Corfforiad 

Gallwn eich helpu i gymryd y cam o fod yn gorff anghorfforedig i fod yn Gwmni Elusennol Cyfyngedig drwy Warant, drwy addasu cyfansoddiad presennol eich elusen i ffurfio Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithas, cofrestru’r cwmni newydd gyda Thŷ’r Cwmnïau a sicrhau trosglwyddiad esmwyth o un sefydliad i’r llall gyda’r Comisiwn Elusennol.

Rydym yno hefyd i gynghori ar drafodion mwy a allai ddigwydd o bryd i’w gilydd megis prynu neu brydlesu eiddo, trosfeddiannu a chyfuno mudiadau elusennol.

Mae ein tîm ymroddedig o Gyfreithwyr arbenigol yn gweithio’n agos gyda’u cysylltiadau mewn cynllunio, tirfesur, cyfrifyddu a bancio er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn yr holl arbenigedd yr ydych ei angen.

Cyfraith Eglwysig

Mae gennym arbenigedd neilltuol yn y Gyfraith Eglwysig, yn enwedig fel y mae’n berthnasol i’r Eglwys yng Nghymru. Crëwyd yr Eglwys yng Nghymru yn 1920, yn dilyn datgysylltiad Eglwys Lloegr yng Nghymru. Mae gwaith yr Eglwys, yn ogystal â rhai o’i chyrff cyfansoddiadol, yn cael ei llywodraethu gan reolau manwl a chymhleth sy’n gofyn am wybodaeth gyfreithiol arbenigol.

Mae Cyfreithwyr Swayne Johnson yn falch o fod yn gysylltiedig gyda’r Gofrestrfa Esgobaethol yn Esgobaeth Llanelwy ers mwy na 200 mlynedd. Rydym ni a’n cwmnïau rhagflaenol wedi gweithredu fel Cofrestryddion Esgobaethol ers tua 1808, ac felly mae gennym ehangder a dyfnder gwybodaeth heb ei ail yn y maes arbenigol yma.

Mr David Hooson oedd Cofrestrydd Esgobaethol Esgobaeth Llanelwy (rôl sydd hefyd yn cynnwys swydd Ysgrifennydd Cyfreithiol i Esgob Llanelwy) am 38 mlynedd ac ef oedd, hyd ei ymddeoliad yn 2011, yr Uwch-Gofrestrydd yn yr Eglwys yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2011, penodwyd Mr Llŷr Williams yn olynydd i Mr Hooson fel Cofrestrydd Esgobaethol, a thrwy hynny ymestynwyd cysylltiad Cyfreithwyr Swayne Johnson gyda’r swydd. Mae Llŷr wedi cwblhau Cwrs Gradd Meistr mewn Cyfraith Eglwysig ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn ymestyn ei arbenigedd ac er mwyn bod â’r gallu i ddarparu lefel uwch o wasanaeth a gwybodaeth i’n cleientiaid yn y maes cymhleth yma o’r gyfraith. O ganlyniad, os nad yw Llŷr yn gwybod yr atebion, mae’n gwybod ymhle i chwilio am yr ateb, ac mae hyd yn oed yn adnabod y bobl a ysgrifennodd y llyfrau!

Mae’r math yma o waith yn cynnwys cymysgedd o waith di-gynnen a gwaith cynhennus, ynghyd â gwaith elusennol ac eiddo. Am fod cymaint o gydrannau amrywiol, cysylltwch ag un o’n cyfreithwyr i drafod eich gofynion unigol.

Dewiswch un o’n Cyfreithwyr cymwysedig i’ch helpu gyda’ch mater cyfreithiol