swayne johnson logo

Teulu


Mae Ysgariad trwy Gyfraith Teulu a’i broblemau cysylltiedig yn gallu bod yn hynod ddrud ac achosi trallod meddwl i chi, heblaw eich bod yn ffodus, neu’n dewis y cyfreithiwr cywir , neu’r ddau! Mae ysgariad neu unrhyw wahanu’n golygu llawer mwy na dau unigolyn yn torri perthynas. Yn aml iawn bydd yn cynnwys gwneud y trefniadau priodol ar gyfer y plant a’r arian hefyd.

Am ein bod yn arbenigwyr yn y maes yma, rydym yn adnabod y gyfraith a sut i wneud iddi weithio i chi.

Y cyfreithiwr teulu gorau yw’r un sy’n gallu sicrhau bod eich buddiannau’n cael eu diogelu heb greu unrhyw drallod ychwanegol na chostau dianghenraid i chi.

Mae Jon Moriarty yn aelod o Resolution (sef Cymdeithas Cyfreithwyr Cyfraith y Teulu gynt) ac yn Arbenigwr wedi’i Achredu gan Resolution.  Mae aelodaeth o Resolution yn ymrwymo Cyfreithwyr Teulu i ddatrys anghydfodau heb wrthdaro. Rydym yn credu y dylid ymdrin ag anghydfodau sy’n ymwneud â chyfraith teulu mewn ffordd adeiladol, sydd wedi’i llunio i ddiogelu urddas pobl ac i annog cytundeb. Gallwch fynd ar wefan Resolution ar www.resolution.org.uk. Mae gan ein tîm i gyd brofiad sylweddol ac maent yn cynnig gwasanaeth o safon sydd wedi’i deilwra’n benodol i’r cleient ac maent wrth law i wrando ac i’ch cynghori mewn ffordd ymarferol, cyfeillgar a chlir.

Yn ddieithriad, mae cleientiaid yn poeni am gostau beth bynnag yw eu problem gyfreithiol. Gallwn asesu yn ystod eich apwyntiad a ydych yn gymwys i dderbyn Cymorth Cyfreithiol neu gallech ddefnyddio’r cyfrifwr cymhwysedd drwy glicio yma. Os nad ydych yn gymwys i dderbyn Cymorth Cyfreithiol byddwn yn hapus i drafod eich opsiynau gyda chi ac rydym yn hyderus y byddwn yn gallu teilwra ein gwasanaethau i’ch amgylchiadau ariannol arbennig chi.

Ysgariad a Gwahanu  

Dydy hi byth yn hawdd gwneud y penderfyniad i fwrw ymlaen a chael ysgariad ac os oes plant yn gysylltiedig â hynny hefyd, mae’n anoddach fyth. Efallai eich bod eisiau cyngor ynglŷn â beth i’w ddisgwyl os byddwch yn penderfynu cychwyn trefniadau i ysgaru neu efallai y byddwch angen cymorth i wneud synnwyr o’ch sefyllfa. Gallwn drafod yr holl opsiynau sydd ar gael i chi ac os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen â’r ysgariad, byddwn ninnau yno i’ch helpu ac i weithio ochr yn ochr â chi i gyflawni’r hyn sydd orau i chi ac i’ch teulu.

Materion yn Ymwneud â Phlant

Os oes gennych blant ac mae eich perthynas yn chwalu, mae’n anodd cofio weithiau y byddwch yn dal i fod yn rhieni, beth bynnag fydd canlyniad yr ysgariad. Bydd yn rhaid i chi wneud trefniadau ynglŷn â phwy fydd yn cymryd y plant i fyw gyda nhw (preswylio) a sut y bydd y rhiant arall yn trefnu eu gweld nhw (cysylltu). Byddwn yn eich annog a’ch cefnogi i geisio dod i benderfyniadau am y plant heb ymyrriad y llys. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl byddwn yn eich tywys drwy’r system llys ac yn gwneud ein gorau i’ch helpu i gael y sefyllfa orau bosib i chi ac i’ch plant.

Weithiau, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfranogi yn yr achos. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn adran o fewn eich awdurdod lleol ac maent yno i ddiogelu plant. Mae’n rhaid iddynt gael caniatâd gan y llysoedd os ydynt eisiau cymryd camau nad ydych yn cytuno â nhw. Yr enw ar y gweithredoedd yma yw achosion gofal. Os yw’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn credu bod plentyn yn dioddef niwed difrifol neu’n debygol o ddioddef niwed difrifol, gallent wneud cais i’r llys am orchymyn gofal. Mae nifer o wahanol orchmynion y gall y llys eu gwneud, yn cynnwys gorchmynion goruchwylio, gorchmynion preswyliad, gorchmynion gwarcheidwaeth arbennig a gorchmynion cyswllt.

Materion Ariannol

Yn aml iawn, agwedd fwyaf heriol y gwahanu yw datrys materion ariannol sy’n codi o chwaliad y berthynas a gall hyn arwain at or-bryder ac ansicrwydd. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatrys y problemau ac i drafod setliad ariannol. Gellir dod i gytundeb am gartref y teulu, trefniadau cynnal, pensiynau, busnesau ac asedau eraill ond os nad yw hyn yn bosibl ac mae’r mater yn cael ei gyfeirio at y llys, byddwn yn rhoi cyngor i chi, yn eich cefnogi ac yn eich cynrychioli. Bydd ein cyngor i chi’n realistig bob amser ac wedi’i deilwra i’ch amgylchiadau arbennig chi.

Partneriaethau Sifil

Ers mis Rhagfyr 2005, mae’r Ddeddf Partneriaeth Sifil wedi galluogi cyplau o’r un rhyw i dderbyn cydnabyddiaeth yn y gyfraith i’w perthnasau. Maent wedi derbyn hawliau tebyg i gyplau priod a chânt eu cydnabod yn bartneriaid sifil. Yn anffodus bydd rhai partneriaethau sifil yn chwalu ac mae’r gyfraith yn ymdrin â’r hawliau a’r cyfrifoldebau sydd gan bartneriaid mewn perthynas â phlant, cyllid a diogelwch rhag trais. Mae chwalu partneriaeth sifil yn cynnwys gweithdrefnau tebyg i ysgariad a byddwn yn eich helpu drwy’r broses.

Cyplau Di-briod

Fel “cydbreswylwyr” (pobl sy’n cyd-fyw) nid ydych yn ffitio’n hawdd i’r system gyfreithiol ond dydy hynny ddim yn golygu bod chwalfa eich perthynas yn llai emosiynol nac yn llai o straen na phe baech chi wedi priodi, yn enwedig os oes gennych blant. Mae’n bwysig eich bod chi’n deall nad ydy cyd-fyw’n rhoi hawliau cyfreithiol i chi dros eich gilydd. Ond gallwn roi cyngor i chi ynghylch y ffordd y mae’r gyfraith yn effeithio ar eich plant a’ch hawliau eiddo os ydych yn berchen ar gartref neu’n rhentu cartref.

Os ydych mewn perthynas, gallwn roi cyngor i chi am ffyrdd o’ch diogelu eich hun, eich plant a’ch cartref.

Cam-drin Domestig

Os ydych yn dioddef oherwydd partner neu bartner priod treisgar, gallwn eich helpu i gael gwaharddeb i dynnu’r partner neu’r priod treisgar yma o’r cartref.

Mae cam-drin domestig yn cynnwys pob math o ymddygiad sydd wedi ei fwriadu i’ch anafu neu godi ofn arnoch. Gall ddigwydd i unrhyw un, yn ddyn, dynes, hoyw, lesbiad ac unigolyn heterorywiol. Mae cyfreithiau i’ch diogelu chi a’ch plant a byddwn yn rhoi cyngor i chi. Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â mudiadau lleol sydd yno i’ch helpu a’ch cefnogi chi.

Cytundeb Cyn Priodi

Mae pobl yn llofnodi’r rhain cyn priodi. Maent yn disgrifio sut y bydd y darpar ŵr a’r ddarpar wraig yn dal eu hasedau ac yn cadarnhau beth fydd yn digwydd os bydd y cwpwl yn ysgaru. Mewn llawer o wledydd mae’r llys yn gorfodi cytundebau cyn priodi ond yng Nghymru a Lloegr nid yw’r cytundebau’n rhwymo’r llys ac ni all cytundeb o’r fath atal y llys rhag gwneud yr hyn y mae’n ei ystyried yn ymraniad teg o asedau’r briodas. Gallai’r llys roi ystyriaeth i gytundeb o’r fath fodd bynnag pan fydd yn ystyried yr amgylchiadau ariannol ar amser yr ysgariad.

 

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod:

 Cyfiawnder Datrys Anghydfod 

CAFCASS

Relate

Cymorth i Fenywod 

Dewiswch un o’n arbenigwyr mewn Cyfraith Teulu i’ch helpu gyda’ch mater cyfreithiol