Diwydiant Teithio a Hamdden
Mae Gogledd Cymru’n gyrchnod byd-enwog i dwristiaid, ac rydym yn helpu unigolion, busnesau bach a mentrau mawr yn y diwydiant hamdden, yn cynnwys tafarnau, clybiau a bwytai, Gwestyau a busnesau Gwely a Brecwast annibynnol a rhai sydd â nifer o safleoedd, a Pharciau Gwyliau a Meysydd Carafanau. Gallwn helpu ein cleientiaid gyda materion eiddo, materion sylwadau cyffredinol, anghydfodau a chyfreitha, ewyllysiau a gofynion parhad busnesau.
Mae ein Cyfreithwyr teithio a hamdden arbenigol yn dod â rheoleiddio, ymgyfreitha a chyfreithwyr masnachol ynghyd i ddarparu cyngor cyfreithiol arbenigol i drefnwyr teithiau, asiantau teithio a busnesau.
Ein meysydd arbenigedd:
- E-fasnach a chontractau ar-lein
- Contractau TG a meddalwedd
- Trefniadau asiantaeth, dosbarthu a chyflenwi
- Telerau ac amodau (busnes i fusnes a busnes i ddefnyddwyr)
- Cynghori sefydliadau ar ddeddfwriaeth Diogelu Data
- Cynghori sefydliadau ar gyfraith farchnata a hysbysebu
- Cynghori sefydliadau wrth ymateb i’r Awdurdod Safonau Hysbysebu a Safonau Masnach
- Cynghori a chynorthwyo sefydliadau mewn datrys anghydfod, o safbwynt masnachol a chyfreithiol mewn perthynas â materion fel anghydfodau defnyddwyr a chytundebol, materion sy’n gysylltiedig â dyled ac anghydfodau Eiddo Deallusol
- Cynorthwyo gwasanaethau cwsmeriaid wrth ddatrys materion / cwynion defnyddwyr
- Cynorthwyo gyda, ac amddiffyn Hawliadau Cyflafareddu a dderbyniwyd gan Gymdeithas Asiantau Teithio Prydain (ABTA)
Dewiswch un o’n Cyfreithwyr cymwysedig i’ch helpu gyda’ch mater cyfreithiol: