swayne johnson logo

Sarah Pierce


Sarah Pierce
  • Teitl Swydd: Cyfreithiwr
  • Tîm: Cleient Preifat
  • Cymhwyster: LLB Anrh, LPC Anrhydedd
  • Dyddiad y Cymhwyster: Hydref 2018

Meysydd arbenigedd

Ewyllysiau a Threth Etifeddiant, Cynllunio Olyniaeth, Atwrneiaeth Arhosol, Gwarchod Asedau ac
Ymddiriedolaethau, Gweinyddu Ystadau (Ceisiadau Profiant) a Cheisiadau & Llys Gwarchod.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith

Rwyf wrth fy modd fy mod yn gallu cwrdd ag amrywiaeth eang o bobl o bob cefndir. Nid oes yr un teulu na’r  un perchennog busnes yr un fath, ac mae hyn yn gwneud fy ngwaith yn ddiddorol iawn pan yn dod i gynllunio ystadau! Rwyf hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn digwyddiadau yn y gymuned leol, gan gynnwys rhoi cyflwyniadau ar faterion cyfreithiol amrywiol i glybiau a sefydliadau lleol.

Cyfrifoldebau a rolau eraill

Rwy’n mynychu amryw o grwpiau rhwydweithio yn ardal Gogledd Cymru yn rheolaidd. Rwy’n gweithredu fel siaradwr gwadd mewn grwpiau cymunedol megis clinigau cof ar gyfer yr henoed a grwpiau cymorth i ofalwyr. Rwyf hefyd yn aelod o Gyfreithwyr Iau Gogledd Cymru &Swydd Gaer.

Amdanoch chi: Rwy’n mwynhau pobi, darllen, rhedeg a threulio amser gyda fy nheulu a’m
ffrindiau a’r anifeiliaid anwes niferus sydd gen i!

 

 

I gysylltu â Sarah:
Ffôn: 01745 818281
Ebost: sarahp@swaynejohnson.com